Dyffryn Lledr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Dyffryn Lledr yn ddyffryn yn sir Conwy, gogledd Cymru. Rhed afon Lledr trwyddi o'i tharddle yn y mynyddoedd i'r gogledd-orllewin o Flaenau Ffestiniog i ymuno ag afon Conwy ger Betws-y-Coed.

Y Bont Rufeinig

Gorwedd Dyffryn Lledr rhwng mynyddoedd Moel Siabod a'r rhosdir uchel rhwng y mynydd hwnnw a'r Cnicht a'r Moelwynion i'r gorllewin, a'r bryniau coediog i'r dwyrain sy'n gorwedd rhynddo a Cwm Penmachno i'r dwyrain. Mae'n ardal mynyddig gyda golygfeydd trawiadol. Mae'r dyffryn tuag wyth milltir o hyd a rhyw bum milltir o led. Mae'n codi o'i waelod cul ger Betws i fyny i Fwlch y Gorddinan (Bwlch Crimea), 1262 troedfedd i fyny, yn y de.

Dolwyddelan yw'r unig bentref yn y dyffryn, a'i ganolfan naturiol. Cymuned fechan yw Pont y Pant, tua milltir a hanner i'r gogledd.

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn mynd trwy'r dyffryn, gan gysylltu Blaenau Ffestiniog â Llandudno ar yr arfordir. Mae'r rheilffordd yn croesi'r afon, yn ogystal a'r briffordd, dros Bont Gethin, un o uchafbwyntiau peiriannyddol y lein, ger Pont y Pant. Ceir gorsafoedd rheilffordd ym mhentref Dolwyddelan gyda gorsafoedd llai ym Mhont y Pant a'r Bont Rufeinig. Rhed priffordd yr A470 trwy'r dyffryn; cafodd ei uwchraddio yn ddiweddar.

Mae hen ffordd Rufeinig Sarn Helen yn rhedeg ar hyd y dyffryn, yn cysylltu caerau Rhufeinig Caerhun a Tomen y Mur. Ym mhen gogleddol y dyffryn ceir y Bont Rufeinig, ond er gwaetha'r enw mae'r bont bresennol yn dyddio i ddechrau'r cyfnod modern.

Ganed Llywelyn Fawr yn Nyffryn Lledr, mewn hen gastell ger safle'r un presennol, yn ôl pob tebyg. Yn ddiweddarach cododd Llywelyn castell Dolwyddelan a ddaeth yn un o brif amddiffynfeydd Tywysogion Gwynedd. Roedd Dyffryn Lledr yn rhan o gwmwd Nant Conwy, un o gymydau cantref Arllechwedd. Roedd y trigolion yn adanbyddus am fod yn arbennig o gydnerth a thal. Roedd ganddynt eu Maes Campau mewn lle o'r enw Gelli'r Llan lle cynhelid chwaraeon ar ddydd Gwylmabsant y plwyf.

Heddiw mae twristiaeth yn elfen bwysig yn economi'r dyffryn.

Darllen pellach[golygu]

  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947). Gweler 'Dolwyddelan'.