Ysgol y Moelwyn
Oddi ar Wicipedia
| Ysgol y Moelwyn | |
|---|---|
| Arwyddair | Amser Dyn yw ei Gynysgaeth |
| Sefydlwyd | 1895 |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mr Dewi Lake |
| Lleoliad | Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, LL41 3DW |
| AALl | Cyngor Gwynedd |
| Staff | 31 |
| Disgyblion | 420 (2008) |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–16 |
| Lliwiau | Glas a Melyn |
Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, ydy Ysgol y Moelwyn.
Cynnwys |
[golygu] Nifer o ddisgyblion
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Gwynedd, mae 420 o ddisgyblion yn yr ysgol.[1] Mae hyn yn golygu mai Ysgol y Moelwyn yw ysgol uwchradd fwyaf Meirionnydd.
[golygu] Perfformiad addysgol
Yn ôl ffigyrau arolygiad Llywodraeth Cymru o berfformaiad addysgol holl ysgolion uwchradd Cymru yn ystod 2010/11, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, Ysgol y Moelwyn yw'r 4ydd ysgol uwchradd orau yng Ngwynedd [2], a'r 53fed ysgol uwchradd orau yng Nghymru (o gyfanswm o 219 ysgol)[3].
[golygu] Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Bro Cynfal
- Ysgol Edmwnd Prys
- Ysgol Manod
- Ysgol Tanygrisiau
- Ysgol Bro Hedd Wyn
- Ysgol Maenofferen
[golygu] Cyn-ddisgyblion Nodedig
- Ted Breeze Jones - naturieithwr, adarydd a ffotograffydd.
- Ceri Cunnington - canwr.
- Bruce Griffiths - ysgolhaig a geiriadurwr (golygydd Geiriadur yr Academi).
- Arwel Gruffydd - actor a chyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
- Geraint Vaughan Jones - nofelydd.
- Twm Miall - awdur a dramodydd.
- Dewi Prysor - awdur a bardd.
- Eigra Lewis Roberts - nofelwraig a dramodydd.
- Iwan Roberts - actor, telynegwr a chanwr.
- Yr Athro John Rowlands - llenor ac academydd.
- Yr Athro Gwyn Thomas - bardd, darlithydd a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru.
- Gai Toms - cerddor, canwr a chyfansoddwr.
- Ynyr Williams - cynhyrchydd teledu.
- Glyn Wise - cyflwynwr radio.