Rheilffordd Ffestiniog

Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Ffestiniog
Mathcwmni cludo nwyddau neu bobl, rheilffordd cledrau cul, rheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1836 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPorthmadog Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9241°N 4.1266°W Edit this on Wikidata
Hyd21.93 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Fairlie Earl of Merionedd, Tan-y-bwlch
Gorsaf Tan-y-bwlch
Rheilffordd Ffestiniog
KINTa
13m 50ch Blaenau Ffestiniog National Rail
BHF
12m 10ch Tanygrisiau
PSL
Llyn Ystradau (1977)
STR+l xABZgr
TUNNEL1 exTUNNEL1
Twneli Moelwyn
STR xABZg+l STR+r
STR HST STR
9m 44ch Dduallt
STRl KRZu STRr
HST
9m 07ch Platfform Campbell
eHST
Coed-y-Bleiddiau
BHF
7m 35ch Tan-y-Bwlch
HST
6m 19ch Arosfa Plas
PSL
4m 16ch Rhiw Goch
BUE
Croesfan A4085
HST
3m 08ch Penrhyn
INT
2m 05ch Minffordd
HST
1m 05ch Boston Lodge Halt
ABZg+l KDSTeq
Gweithdy Boston Lodge
DSTR
Y Cob
ABZgl
0m 00ch Harbqr Porthmadog
HUBrf
CONTf
Porthmadog

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rheilffordd cledrau cul (1 troedfedd ac 11½ modfedd; 597 mm), yn Eryri, Gwynedd. Mae'r rheilffordd yn cysylltu Porthmadog a Blaenau Ffestiniog ac yn atyniad twristaidd poblogaidd.

Adeiladwyd y rheilffordd yn y 19g i gludo llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog i borthladd Porthmadog er mwyn eu hallforio.

Hanes[golygu | golygu cod]

Injan Little Giant (cab F.R. 6), tua 1875.

Ar ddiwedd y 18g, prynodd William Alexander Madocks dir ar aber Afon Glaslyn, ac wedi adeiladu'r Cob, sydd yn mynd ar draws yr aber, crëwyd harbwr gan lif newydd yr afon. Codwyd adeilad mawr ar ochr arall y Cob ar gyfer y gweithwyr, sef Boston Lodge; cynrychiolodd Madocks y dref Boston yn San Steffan.

Mountaineer yn gadael Porthmadog
Trên yn agosáu at Dan y Bwlch

Ar un adeg, datblygodd diwydiant enfawr o chwareli llechi yn ardal Blaenau Ffestiniog, ond roedd angen cludo'r llechi ar gerbydau i Afon Dwyryd, ac ar gychod i lawr yr afon at longau hwyliau. Felly hyrwyddwyd y syniad o adeiladu rheilffordd gan Samuel Holland,[1] perchennog chwarel yn y Rhiw, a Henry Archer,[2] dyn busnes o Ddulyn, a phasiwyd deddf yn San Steffan ar 23 Mai 1832[3] i'r perwyl hwn. Arolygwyd ac adeiladwyd y Rheilffordd gan James Spooner o Swydd Gaerwrangon. Lled y lein oedd 23.5 modfedd, yr un maint a ddefnyddiwyd yn y chwareli. Adeiladwyd y lein rhwng 1833 a 1836.

Defnyddiwyd disgyrchiant yr holl ffordd i lawr i Borthmadog, a cheffylau i dynnu'r wagenni gweigion yn ôl i'r chwareli. Aeth y ceffylau i lawr i Borthmadog mewn wagenni 'dandy'. Daeth y rheilffordd yn brysurach, ac roedd angen pŵer cryfach i dynnu'r cerbydau; ond ni chredwyd fod locomotifau stêm yn ymarferol ar gledrau mor gul.

Lew ar y Cob

Cyhoeddwyd amserlen gan Charles Easton Spooner ym 1856, efo 6 thrên pob dydd i lawr o 'Quarry Terminus' (Cyffordd Dinas) i Boston Lodge, yn stopio yn 'Twnnel', Hafod y Llyn a Rhiw Goch; cymerodd y trên gyflymach 1 awr 32 munud. Daeth 2 ddyn ar bob trên i'w rheoli gyda brêcs. Tynnwyd y trenau ymlaen o Boston Lodge i Borthmadog gan geffylau.

Cymerodd trenau yn ôl i fyny bron 6 awr, a phob trên yn cynnwys 6 wagen lechi wag a wagen dandy. Roedd yr amserlen yn ddigonol i gario 70,000 o dunelli o lechi.[3]

Daeth Charles Easton Spooner, mab James, yn rheolwr y rheilffordd ym 1856. Arwyddodd gytundebau efo George England a'i Gwmni, Llundain ar gyfer pedwar o locomotifau. Cyrhaeddodd The Princess a Mountaineer yng Ngorffennaf 1863, a The Prince a Palmerston ym 1864. Caniatawyd trenau ar gyfer teithwyr yn ystod yr un flwyddyn. Defnyddiwyd disgyrchiant ar y ffordd i lawr, ac aeth locomotifau i lawr ar wahan. Stopiodd trenau yn Nhanygrisiau, Hafod y Llyn (Tan y Bwlch o 1872 ymlaen) a Phenrhyndeudraeth; pasiodd trenau ar y dde, fel y maent hyd at heddiw.[3]

Cyrhaeddodd Welsh Pony a Little Giant ym 1867, a daeth y lein yn brysurach; felly yn 1869, pasiwyd deddf yn caniatáu trac dwbl. Buasai hynny'n gostfawr iawn, a datryswyd y broblem drwy ddefnyddio locomotifau Fairlie. Roedd Robert Fairlie wedi cynllunio locomotif hyblyg,[2] efo un boilar ar ddau fogi, efo caban canolog i'r gyrrwr a'r dyn tân. Arddangoswyd 'Little Wonder' ar y rheilffordd ym 1870. Dilynodd 'James Spooner' ym 1872, ac ym 1876, Taliesin, injan mwy confensiynol. Erbyn hyn roedd Boston Lodge yn weithdy sylweddol, ac adeiladwyd 'Myrddin Emrys' ym 1879 a 'Livingston Thompson' ym 1886. Adeiladwyd cerbydau 15 ac 16 ym 1873, y cerbydau cyntaf efo bogis ym Mhrydain.

Defnyddiwyd disgyrchiant gan drenau llechu hyd at 1939, a daeth y trenau'n hirach; yn aml iawn, mwy nag 80 wagen efo 3 dyn i arafu trên. Erbyn 1900, daeth 9 trên i lawr a 9 i fyny i Dduffws, yn stopio ym Minffordd, Penrhyndeudraeth, Tan y Bwlch, Dduallt, Tanygrisiau, Blaenau (LNWR) a Blaenau (GWR). Cymerodd y siwrnai i fyny dim ond awr. Defnyddiwyd breciau gwacter o 1893 ymlaen.[3]

Ym 1872, adeiladwyd culffyrdd gyfnewid ym Minffordd, yn rhoi cysylltiad i'r Rheilffordd y Cambrian. Ond efo cyrhaeddiad rheilffyrdd eraill i Flaenau Ffestiniog, agorwyd ffyrdd eraill i'r cludiant llechi. Ac erbyn diwedd y 19g, dechreuodd y diwydiant llechi yng Nghymru ddirywyo, a chafwyd cyfres o streiciau hir.

Erbyn y 1920au, roedd twristiaid mor bwysig i'r rheilffordd â'r diwydiant llechi, sydd wedi crybachu'n sylweddol erbyn y 1920au. Ym 1921, prynodd Corfforiaeth Alcam (o Ddolgarrog cyfran reolaethol yn y rheilffordd. Daeth Henry Jack yn gadeirydd. Roedd o'n gadeirydd Rheilffordd Eryri hefyd.

Ym 1923 agorwyd Rheilffordd Eryri, a gyllidwyd gan Reilffordd Ffestiniog, i gysylltu Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru efo'r Ffestiniog, gan gynnwys gorsaf reilffordd newydd, Porthmadog Newydd. Roedd gan y rheilffordd newydd ddyled enfawr, a roedd hi'n faich sylweddol ar Reilffordd Ffestiniog. Appwyntiwyd Cyrnol Holman Fred Stephens yn beiriannydd rhan amser i'r ddwy reilffordd ym 1923, a daeth o'n gadeirydd a rheolwr cyfarwyddwr i'r ddwy ym 1924. Aeth Rheilffordd Eryri i law'r derbynnydd ym 1927; daeth Stephens yn dderbynnydd iddi, a symudodd swyddfeydd y ddwy reilffordd i Tonbridge, cartref y Cyrnol. Roedd Rheilffordd Eryri'n methiant, a chaewyd y lein ym 1937.[3]

Parhaodd trenau llechi'r Rheilffordd Ffestiniog, yn ogystal â threnau i weithwyr yn ystod yr wythnos ac i dwristiaid yn ystod yr haf. Gorffennodd gwasanaeth i weithwyr ar 16 Medi 1939; parhaodd trenau llechi ar dri diwrnod yr wythnos, ond efo locomotifau yn hytrach na ddisgyrchiant. Daeth trenau llechi i ben ar 1 Awst 1946, heblaw am darn bach rhwng Duffws ac iard yr LNWR ym Mlaenau. Nid oedd sôn yn y deddf wreiddiol am gau neu ddatgymalu'r rheilffordd, a doedd dim arian i gyllido deddf newydd, felly gadawyd y lein a gorsafoedd i ddirywio.[3]

Adfywiad[golygu | golygu cod]

Trên ar y Cob

Cynhaliwyd cyfarfod ym Mryste ym 1951 i drafod ail-agor y Rheilffordd. Prynodd Alan Pegler[4] gyfran reolaethol yn y rheilffordd a dechreuodd grŵp o wirfoddolwyr y dasg o ailadeiladu'r lein.

Cychwynnodd gwasanaeth dros y Cob o Borthmadog i Boston Lodge ar 23 Gorffennaf 1955, yn gyntaf efo diesel Simplex, ac wedyn efo 'Prince' , sydd wedi cael ei ail-adeiladu, o 3 Awst 1955 ymlaen.[5] Estynnwyd y lein i Finffordd ar 19 Mai 1956, i Benrhyndeudraeth ar 5 Mehefin 1957, i Dan-y-Bwlch ar 5 Ebrill 1958, ac i Dduallt ar 6 Ebrill 1968. Ail-gyflwynwyd Gwasanaeth Post y rheilffordd ar 28 Mai 1968..[3]

Y Gwyriad[golygu | golygu cod]

Ym 1955, pasiwyd deddf yn San Steffan ar gyfer Gorsaf Bŵer yn ymyl Tan-y-grisiau, yn cynnwys pryniant gorfodol o'r lein uwchben Twnnel Moelwyn er mwyn adeiladu cronfeydd dŵr. Ond aeth y Rheilffordd ymlaen at Flaenau Ffestiniog, ac yn Ebrill 1968, ail-agorwyd gorsaf Dduallt, yr un olaf cyn y cronfeydd dŵr, ac ar 2 Ionawr 1965, dechreuwyd gwaith ar weddill y lein. Cwblhawyd Troelliad Dduallt ym 1971 i godi'r lein uwchben lefel y cronfeydd dŵr, a Thwnnel Moelwyn newydd ym 1977.[6] Adeiladwyd pontydd dros bibellau'r orsaf bŵer a chyrhaeddwyd Tan-y-grisiau, a hen lwybr y rheilffordd, ar 24 Mehefin 1978.

Penderfynwyd y dylai Blaenau Ffestiniog gael un gorsaf reilffordd ar gyfer trenau Rheilffyrdd Prydeinig a Rheilffordd Ffestiniog. Agorwyd yr orsaf yn swyddogol gan George Thomas (Ysgrifennydd Gwladol) ar 30 Ebrill 1983.

Rheilffordd Eryri[golygu | golygu cod]

Roedd Rheilffordd Ffestiniog wedi dechrau cynllunio ail-agoriad Rheilffordd Eryri yn y 1990au, a digwyddodd hynny – o Gaernarfon i Borthmadog – yn 2012.

Locomotifau a Cherbydau[golygu | golygu cod]

Locomotifau Stêm[golygu | golygu cod]

Gweler N. F. Gurley; Narrow Gauge Steam out of Portmadoc, 1980 ar gyfer gwybodaeth hyd at 1979.

Rhif Enw Delwedd Trefn yr Olwynau Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
1 Princess 0-4-0 1863 George England Tynnwyd o Spooner's i gael atgyweiriad cosmetig ar gyfer penblwydd cant a hanner o stêm ar y rheilffordd yn 2013.
2 Prince 0-4-0 1863 George England Yr injan stêm hynaf y rheilffordd sydd yn goroesi. Atgyweirir yng Ngweithdy Boston Lodge ar gyfer penblwydd cant a hanner o stêm ar y rheilffordd yn 2013.
3 Mountaineer 0-4-0 1863 George England Datgymalwyd ym 1879 pan ystyriwyd o yn dreuliedig. Defnyddiwyd rhai darnau ar locomotifau George England eraill.
4 Palmerston 0-4-0 1864 George England Yn ôl ar y lein ym 1993 wedi blynyddoedd maith heb ei ddefnyddio, gan gynnwys cyfnod fel boilar ansymudol yn Boston Lodge.
5 Welsh Pony 0-4-0 1867 George England Wrthi'n cael ei adnewyddu ar gyfer gwasanaeth ar y rheilffordd.
6 Little Giant 0-4-0 1867 George England Sgrapiwyd ym 1932.
7 Little Wonder 0-4-4-0 1869 George England Sgrapiwyd ym 1882. Y locomotif Fairlie cyntaf.
8 James Spooner 0-4-4-0 1872 Avonside Engine Co. Defnyddiwyd hyd at 1931, a sgrapiwyd ym 1933.
9 Taliesin 0-4-4 1876/1999 Vulcan Foundry/ Boston Lodge Copi o locomotif Fairlie unigol, adeiladwyd yng ngweithdy Boston Lodge ym 1999. Sgrapiwyd yr un wreiddiol (adeiladwyd ym 1876) ym 1935 ar ôl gwrthdaro'n erbyn Welsh Pony. Defnyddiwyd rhai darnau o'r un gwreiddiol tra'n adeiladu'r un newydd. Enwyd ar ôl y bardd Taliesin. Adeiladwyd i ganiatáu defnydd o lo neu olew, a defnyddiwyd glo ers 2007. Defnyddiwyd fel arfer ar amserau tawel.
10 Merddin Emrys 0-4-4-0 1879 Boston Lodge Y Fairlie hynaf yn gweithio ar y rheilffordd. Enwyd ar ôl y bardd Myrddin Emrys. Ailadeiladwyd yr injan ym 1987/8. Daeth yn ôl i'w waith yn 2005 a throswyd i ddefnyddio glo yn ystod gaeaf 2006/2007.
11 Livingston Thompson 0-4-4-0 1886 Boston Lodge Tynnwyd o'i waith ac atgyweiriwyd i'w ddangos yn Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol yn Efrog.
11 Earl of Merioneth 0-4-4-0 1979 Boston Lodge Y Fairlie dwbl cyntaf a adeiladwyd gan y Rheilffordd bresennol, a'r unig un heb y tanciau ciwboid arferol. Defnyddiodd lo ers 2006. Ymddeolwyd ym mis Ebrill 2018.
12 David Lloyd George 0-4-4-0 1992 Boston Lodge Y Fairlie dwbl diweddaraf yn y byd, a hefyd y locomotif mwyaf pŵerus ar y rheilffordd. Adeiladwyd i ddefnyddio olew, sydd yn gostus ar hyn o bryd, felly fe'i defnyddir dim ond os oes angen, ar drenau trwm.
- Blanche 2-4-0 1893 Cwmni Hunslet Gweithiodd yn wreiddiol ar brif lein y Rheilffordd Chwarel Penrhyn fel 0-4-0. Prynwyd gan Reilffordd Ffestiniog ym 1963 ac ailadeiladwyd yn 2-4-0 ym 1972 yn defnyddio'r olwynion blaen, oddi ar Foel Tryfan, un o'r locomotifau gynnar Rheilffordd Eryri.
- Linda 2-4-0 1893 Cwmni Hunslet Gweithiodd yn wreiddiol ar brif lein y Rheilffordd Chwarel Penrhyn fel 0-4-0. Prynwyd gan Reilffordd Ffestiniog ym 1962. Enwyd ar ôl Linda Blanche Douglas-Pennant, merch y trydydd Barwn Penrhyn. Ailddechreuodd gwaith yn 2011 ar ôl atgyweiriad dros gyfnod o 7 blynedd.
- Mountaineer 2-6-2 1917 ALCO Adeiladwyd ar gyfer y Fyddin Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gweithiodd wedyn ar Dramffordd Pithiviers à Toury yn Ffrainc. Prynwyd gan gefnogwyr Rheilffordd Ffestiniog ym 1967. Nid yw wedi gweithio ers 2006 ac mae'n disgwyl cael ei hatgyweirio.
- Britomart 0-4-0 1899 Cwmni Hunslet Defnyddiwyd fel arfer o gwmpas Boston Lodge a Gorsaf Rheilffordd Harbwr Porthmadog ac yn achlysurol ar gyfer gweithgareddau arbennig yng ngorsafoedd Tan-y-bwlch a Blaenau Ffestiniog.
- Lilla 0-4-0 1891 Cwmni Hunslet Defnyddiwyd ar drenau arbennig neu ar gyfer digwyddiadau arbennig.
14 Lyd 2-6-2 2010 Boston Lodge Adeiladwyd yng Ngweithdy Boston Lodge yn arddull y pedwar locomotifau adeiladwyd gan Gwmni Manning Wardle ar gyfer Rheilffordd Lynton a Barnstaple rhwng 1898 a 1925. Sgrapiwyd tri ohonynt, ac aeth yr un arall i Brasil ac mae bellach wedi diflannu. Dechreuodd Lyd ei waith yn 2010 mewn lifrai du heb linellau, ac wedyn mewn lifrai'r Rheilffyrdd Prydeineg (du efo llinellau) yn 2011; ac – hefyd yn 2011 – yn lifrai'r Rheilffordd y De[7]. Disgwyliwyd bod Lyd yn ymddangos ar Reilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yn y dyfodol.
- Leary 0-4-0 2010 E A Foulds Ltd, Colne Adeiladwyd Leary gan grwp o wirfoddolwyr y rheilffordd, yn defnyddio boeler fertigol.[8]
- Dahuichang 4 0-8-0 1988 Gweithdy locomotif Harbin Adeiladwyd ar gyfer rheilffordd diwydiannol ar gyrion Beijing a phrynwyd gan grwp o wirfoddolwyr y Rheilffordd Ffestiniog yn 2006. Arddangoswyd yr injan yn Amgueddfa Reilffordd Shildon yn 2008, ac rŵan yn disgwyl am atgyweiriad yng Ngweithdy Boston Lodge.[9]

Locomotifau Diesel[golygu | golygu cod]

Gweler N. F. Gurley; Narrow Gauge Steam out of Portmadoc, 1980 ar gyfer gwybodaeth hyd at 1979

Enw Delwedd Math Adeiladwyd Adeiladwr Nodiadau
Mary Ann 4wd 1917 Motor Rail Yr injan cyntaf i weithio ar y rheilffordd ar ei newydd wedd ym 1954. Adeiladwyd ar gyfer yn Rhyfel Byd Cyntaf; prynwyd gan Reilffordd Ffestiniog ym 1923.
Moelwyn 2-4-0d 1918 Cwmni Baldwin Injan arall o'r Rhyfel Byd Cyntaf, prynwyd gan y rheilffordd ym 1925.
Upnor;Castle 4wd 1954 F.C. Hibberd Adeiladwyd i'r Rheilffordd Chattenden ac Upnorar gyfer cledrau 30 modfedd o led. Prynwyd o'r Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion ym 1968. Erbyn hyn, mae'n gweithio ar Reilffordd Eryri.
Moel Hebog 4wd 1955 Cwmni Hunslet Adeiladwyd ar gyfer Bwrdd Glo Cenedlaethol fel locomotif diogel rhag tân. Prynwyd ym 1969 a defnyddiwyd yn y bòn ar drenau cynnal a chadw.
Conway Castle/Castell Conwy 4wd 1958 F. C. Hibberd a Chymni cyf. Adeiladwyd ar gyfer lein y Morlys yn Ernesettle. Prynwyd ym 1981, adenwir yn ddwyieithog. Defnyddir ar Reilffordd Eryri.
Ashover 4wd 1948 F. C. Hibberd a Chymni cyf. Adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Ysgafn Ashover a phrynwyd ym 1981.
The Lady Diana 4wd 1957 Motor Rail Prynwyd ym 1974.
The Colonel 4wd 1943 Motor Rail Adeiladwyd ar gyfer Cwmni Tywod a Gro St. Albans, a phrynwyd gan Cyrnol Campbell o Faenor Dduallt i ddefnyddio'n bersonol ar Reilffordd Ffestiniog. Ffestiniog Railway. Prynwyd gan y rheilffordd ym 1982.
Criccieth Castle/Castell Criccieth 0-6-0d 1995 Boston Lodge Adeiladwyd gan y rheilffordd o darnau cyflenwyd gan Gwmni Baguley-Drewry. Enwir yn ddwyieithog a defnyddiwyd ar drenau i deithwyr.
Harlech Castle/Castell Harlech 0-6-0d 1983 Baguley-Drewry Adeiladwyd i weithio ym Mosambic, ond prynwyd gan Reilffordd Ffestiniog ym 1988 ar ôl dilead y cytundeb. Enwir yn ddwyieithog. Defnyddiwyd ar drenau cynnal a chadw a chedwir fel arfer ym Minffordd.
Harold 4wd 1979 Cwmni Hunslet Adeiladwyd ar gyfer gwaith carthion North Bierley a phrynwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog yn y 1990au.
Vale of Ffestiniog B-B]]d 1967 CH Funkey & Co (Pty) Ltd Adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd dwy droedfedd y Cwmni Sment o Ddalaith Ddwyreiniol ym Mhort Elizabeth, De Affrica. Prynwyd gan y rheilffordd ym 1996 ac ailadeiladu'n helaeth. Defnyddir ar drenau teithwyr. Gefell i 'Castell Caernarfon' ar Reilffordd Eryri.
Moel-Y-Gest 4wd 1965 Cwmni Hunslet Adeiladwyd ar gyfer Stordy Arfau y Llynges, Dean Hill, Wiltshire. Prynwyd gan y rheilffordd yn 2004, a defnyddir o gwmpas Boston Lodge.
Busta 4-wheel Fairbanks Morse Troli fforddolwyr, defnyddiwyd yn wreiddiol gan Fyddin Yr Unol Daleithiau. Defnyddiwyd ar Reilffordd Eryri ym 1920au a 1930au.
Monster 4 olwyn. Boston Lodge Diesel bach, adeiladwyd ar gyfer y rheilffordd ac atgyweiriwyd yn 2010.

Cerbydau sydd yn eiddo, neu cedwir yn barhaol ar, Rheilffordd Ffestiniog.

Cerbydau Pedair Olwyn[golygu | golygu cod]

Prif ffynhonnell yw "Rheilffordd Ffestiniog Railway Traveller's Guide" cyhoeddwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog yn 2002, yn diweddarir pan fo wybodaeth ar gael. Gweler hefyd Festipedia - Cerbydau Archifwyd 2012-12-08 yn y Peiriant Wayback.

Rhif presennol Adeiladwyd Adeiladwr Adrannau (o ben agosach i Flaenau) Seddi Delwedd Nodiadau
1 1996 Gweithdy Boston Lodge mainc bwrdd cyllyllrhannol agored 14 (3ydd) copi efo rhai ddarn gwreiddiol
2 1863/4 Brown, Marshalls and Co. Ltd. un adran, seddi bwrdd cyllyll 10 (1af) atgyweiriwyd 1958, ailadeiladwyd 1992
3 1863/4 Brown Marshalls & Co. Birmingham mainc bwrdd cyllyll un adran 14 (3ydd) atgyweiriwyd 1960, ailadeiladwyd 1996
4 1863/4 Brown Marshalls & Co. Birmingham mainc bwrdd cyllyll un adran 14 (3ydd) atgyweiriwyd 1958, ailadeiladwyd 2000
5 1863/4 Brown Marshalls & Co. Birmingham mainc bwrdd cyllyll un adran 14 (3ydd) atgyweiriwyd 1958, ailadeiladwyd gan Mr R.G. Jarvis 1983
8 1885/6 FR Boston Lodge Works cerbyd chwarelwyr un adran 10 (3ydd) atgyweiriwyd 1961 a 1988, ailadeiladwyd 1991/2
10 2007 Gweithdy Boston Lodge Dwy adran pedair olwyn 12 (3ydd) Copi o bedair olwyn Ashbury o 1868, yn cynnwys darnau cerbydau Ashbury gwreiddiol. Adeiladwyd yr un gwreiddol yn un dosbarth cyntaf, ond yn hwyrach ailenwyd yn drydydd dosbarth.
(11) 1863/4 Brown Marshalls & Co. Birmingham mainc bwrdd cyllyll hollol agored 14 (3ydd) Ailadeladwyd gan Grŵp Canolbarth y Gymdeithas Rheilffordd Ffestiniog mewn cyflwr gwreiddiol. Atgyweirir ar hyn o bryd i gyflwr Fictoriaidd, gan gynnwys cysgodlenni lledr. Galwir fel arfer y 'flying bench'.
12 Adeiladir ar hyn o bryd. Gweithdy Boston Lodge mainc bwrdd cyllyllrhannol agored 14 (3ydd) copi efo rhai ddarn gwreiddiol.
Fan 6 1885/6 Gweithdy Boston Lodge Brec un adran. 6 (3ydd) Newidiwyd o gerbyd chwarelwyr (fel rhif 8) tua 1930, balconi un ben, ailadeiladwyd ym 1988.
Fan 7 1898 Gweithdy Boston Lodge Brec un adran. 6 (3ydd) Adeiladwyd yn gopi o fan brec rhif 1. Newidiwyd o gerbyd chwarelwyr (fel rhif 8) tua 1930, efo dau falconi.
Fan 51 (cynt Fan 1) 1964 Grŵp Canolbarth y Gymdeithas Rheilffordd Ffestiniog Brec un adran heb falconi 8 (3ydd) Adeiladwyd i gymryd lle'r Fan 1 gwreiddiol (Rhif 7 uchod). Dywedwyd bod y cerbyn hwn yr un cyntaf a adeiladwyd yn hollol gan wirfoddolwyr ar gyfer unrhyw reilffordd dreftadaeth. Fel a'r un gwreiddiol, defnyddiwyd olwynion a threuliau oddi ar gerbyd chwarelwyr. Adnewyddwyd ym 1987 a rhoir i Adran Peirianneg Sifil y Rheilffordd.
Fan 59 1923 GWR Gweithdy Rheilffordd y Great Western, Swindon Fan - Adeiladwyd yn Swindon (Lot 914) a daeth yn GWR Rhif 38089 ar Reilffordd Dyffryn Rheidol fel wagon gwartheg. Newidiwyd i led 30 modfedd ar gyfer Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair Caereinion. Ailadeiladwyd yn fan gan Grŵp Dwyrain Anglia y Gymdeithas Rheilffordd Ffestiniog, yn dychwelyd i'w led gwreiddiol

Cerbydau Bogi[golygu | golygu cod]

Prif ffynhonnell yw "Rheilffordd Ffestiniog Railway Traveller's Guide" cyhoeddwyd gan y Rheilffordd Ffestiniog yn 2002, yn diweddarir pan fo wybodaeth ar gael. Gweler hefyd Festipedia - Cerbydau Archifwyd 2012-12-08 yn y Peiriant Wayback.

Rhif Presennol Adeiladwyd Adeiladwr Adrannau (o ben agosach i Flaenau) Seddi Delwedd Nodiadau
Fan 1 2004 Gweithdy Boston Lodge Gard / Bagiau / Cwn 0 Copi o Fan Brown Marshall & Co. O 1873, galwyd y 'curly roofed van'. Sgrapiwyd yr un gwreiddiol ym 1921.
Fan 2 1873 Gweithdy Boston Lodge 3/3/G (gard) 12 Fan Brêc / Bagiau, adeiladwyd yn Rhif 2, ailadeiladwyd 1920/21, ac ailadeiladwyd i gyflwr 1920/21 ym 1991. Rhoddwyd Rhif 10 yn 2005.
Van 3 1873 Gweithdy Boston Lodge Gard / Bagiau / Cwn 0 Goroesodd hyd at 1955, ond sgrapiwyd erbyn hyn. Seiliwyd copi 2004 o Fan 1 a'r cerbyd hwn.
Van 4 1880 Gloucester Railway Carriage and Wagon Company G/1/1 Salŵn Gwylio 15 Adeiladwyd fel fan bagiau Rhif 4; ailadeiladwyd ym 1928/29 fel cerbyd teithwyr/brêc, ailadeiladwyd ym 1957/8, ac fel salŵn gwylio, efo is-ffrâm ddur, ym 1962. Ail-rifwyd o gerbyd 11 yn 2005.
Fan 5 1880 Gloucester Railway Carriage and Wagon Company 3/Salŵn/Gard 25 Adeiladwyd fel fan bagiau rhif 5; ailadeiladwyd ym 1929/30 yn gerbyd teithwyr/brêc, atgyweiriwyd ym 1955, ychwanegwyd cownter bwffe a choridor ym 1957, aildrefnwyd bwffe a salŵn ym 1960, estynnwyd efo is-ffrâm ddur ym 1963. Trysiadau a threfn newydd y seddi, heb gownter bwffe ym 1982. Ail-rifwyd o gerbyd 12 yn 2005.
14 1896 Bristol Carriage and Wagon Works, Bryste 3 Salŵn/bwffe 26 Adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Lynton a Barnstaple fel brêc trydydd dosbarth rhif 15 ac atgyweiriwyd ym 1963 a 1998.
15 1872 Brown, Marshalls & Co. Birmingham 3/3/3/1/3/3/3 48+6 Cynlluniwyd gan George Percival Spooner a dechreuodd gwaith yn Ionawr 1873, yn Rhif 16, un o'r cerbydau cyntaf – o unrhyw faint – i weithio ym Mhrydain. Adeiladwyd efo is-ffrâm haearn a ffrâm haearn i'r coetswaith. Atgyweiriwyd ym 1960, ailadeiladwyd yn 2001 efo chefnogaeth y Gronfa Loteri.
16 1872 Brown Marshalls & Co. Birmingham 3/3/3/1/1c/3/3 40+9 I'r un cynllun â Rhif 15,un o'r cerbydau cyntaf – o unrhyw faint – i weithio ym Mhrydain. atgyweiriwyd (efo adran cyntaf yn lle yr un ail ddosbarth) ym 1969 yn y bôn gan Mr R.G. Jarvis. Ailadeiladwyd yn 2001 efo chefnogaeth y Gronfa Loteri.
17 1876 Brown Marshalls & Co. Birmingham 3/3/1/3/3/3 40+6 Cynlluniwyd gan George Percival Spooner. Ffrâm haearn ond coetswaith arferol efo ochrau crwm. Atgyweiriwyd ym 1956 a 1990. Adweinir rhifau 17 i 20 fel 'bowsiders'.
18 1876 Brown Marshalls & Co. Birmingham 3/3/1/3/3/3 40+6 Fel rhif 17 ond atgyweiriwyd ym 1957 a 2003.
19 1879 Gloucester Railway Carriage and Wagon Company 3/3/1/1/3/3 32+12 Cynlluniwyd gan George Percival Spooner. Is-ffrâm haearn gyr ond coetswaith confensiynol efo ochrau crwm. Yn wreiddiol, dosbarthiadau cyntaf, ail a thrydydd. Atgyweiriwyd ym 1963 a 1982.
20 1879 Gloucester Railway Carriage and Wagon Company 3/3/1/1/3/3 32+12 el Rhif 19 ond atgyweiriwyd ym 1957 a 1987.
22 1896 Ashbury Carriage and Wagon Co, Manceinion 3/3/3/3/3/3/3 56 Cerbyd rhad, adeiladwyd ar gyfer traffig twristiaeth. Mae ganddo is-ffrâm bren. Atgyweiriwyd ym 1958. Cafodd is-ffrâm ddur ym 1967. Ailadeiladwyd efo chorff newydd ym 1984. Annhebyg i'w ffurf gwreiddiol.
23 1894 Ashbury Carriage and Wagon Co Manceinion 3/3/3/3/3/3/3 56 Adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru.

Daeth yn gerbyd Rheilffordd Eryri ym 1923 a cherbyd Rheilffordd Ffestiniog ym 1936, cyfnewidiwyd am dri o wagenni bogi. Daeth yn ôl i'w waith ym 1955. Ffitiwyd drysau llawn ym 1966. Gweithio ar Reilffordd Eryri ar hyn o bryd.

26 1894 Ashbury Carriage and Wagon Co Manceinion 3/3/3/3/3/3/3 56 Adeiladwyd ar gyfer Rheilffordd Cledrau Cul Gogledd Cymru. Daeth yn gerbyd Rheilffordd Eryri ym 1923. Gwerthwyd i ffermwr i gadw ieir. Ail-brynwyd ym 1959 ac ail-ddechreuodd gwaith ym 1959. Ffitiwyd drysau llawn ym 1965. Ailadeiladwyd efo corff newydd ym 1986. Annhebyg i'w ffurf gwreiddiol.
37 1971 Gweithdy Boston Lodge 3/3/3/3/ 32 Cerbyd twrist rhan-agored, efo hanner-ddrysau o gerbydau 23 a 26. Adeiladwyd ar is-ffrâm wagen bogi Hudson.
38 1971 Gweithdy Boston Lodge 3/3/3/3/ 32 Cerbyd twrist rhan-agored, efo hanner-ddrysau o gerbydau 23 a 26. Adeiladwyd ar is-ffrâm wagen bogi Hudson a chafodd ddefnydd tebyg yn y 1920au.
39 1992 Winson Engineering 3/3/3/3/ 24 Copi o un o grŵp o chwech cerbyd twrist hanner-agored 'toastrack' heb drysau, ag adeiladwyd gan Gwmni Hudson yn y 1920s i'r Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Adeiladwyd y copi hwn ar is-ffrâm wagen bogi Hudson.
100 2006 Gweithdy Boston Lodge 1 1 Salŵn /1 Salŵn Gwylio 20 Y rhif "100" newydd. Salŵn Gwylio dosbarth cyntaf o'r cerbydau Canmlwyddiant, tebyg i rif 102, heb adran Gard. Efo seddi a byrddau symudol yn y salŵn gwylio y gallu cael ei symud i adael lle ar gyfer cadeiriau olwyn. Cyfunir efo cerbyd gwasanaethu 124.
102 2005 Gweithdy Boston Lodge G / 1 Salŵn /1 Salŵn Gwylio 16 Salŵn Gwylio dosbarth cyntaf o'r cerbydau Canmlwyddiant, tebyg i rhif 100 (erbyn hyn 1000) a 101. Dechreuodd gwaith yn Awst 2005 ar gyfer pen-blwydd 50fed 50th ailddechreuad trenau teithwyr. Efo seddi a byrddau symudol yn y salŵn gwylio y gallu cael ei symud i adael lle ar gyfer cadeiriau olwyn.. Efo gwres ar gyfer y tymhorau oerach.
103 1968 Gweithdy Boston Lodge Buffet /3 Salŵn 17 Cerbyd Bwffe o'r cerbydau Canmlwyddiant. Tynnwyd o wasanaeth ar 3 Tachwedd 2006 i'w ailadeiladu'n salŵn trydydd dosbarth.
104 1964 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn /1/3 Salŵn 32 + 4 Cynddelw o'r cerbydau Canmlwyddiant. Ailadeiladwyd ym 1985 efo coridor.
105 1966 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn / 1 / 3 Salŵn / Toiled 22 + 4 Cerbyd Canmlwyddiant. Toiled ar ben Porthmadog y cerbyd.
Minor rebuild 1998 3 Salŵn / 1 /3 Salŵn 32 + 4 Cerbyd Canmlwyddiant. Toiled ar ben Porthmadog y cerbyd. Cafwyd gwared ohono ym 1988.
Major rebuild 2005 3 Salŵn / Toiled /3 Salŵn 32 Cerbyd Canmlwyddiant. Ailadeiladwyd efo toiled yn lle'r adran dosbarth cyntaf a lle am gadeiriau olwyn
106 1968 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn /1/3 Salŵn 32 + 4 Rebodied 2002 - Cerbyd Canmlwyddiant.
107 2004 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn /1/3 Salŵn 32 + 4 Cerbyd Canmlwyddiant.
110 1975 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn 42 Yn wreiddiol rhif 30, efo rheolaeth awtomatig, i yrru ei drên ar wasanaeth o Dduallt i Elliwiog o 26 Mai 1975. Y cerbyd dur cyntaf adeiladwyd yn Boston Lodge, efo is-ffrâm asgwrn-cefn canolog. Efo gwres diesel ar gyfer y tymhorau oerach.
111 1990 Gweithdy Boston Lodge G/toiled/1 Salŵn/caban yrru. 11 Trelar ar gyfer gwasanaeth gwthio/tynnu allfrig. Corff dur ar is-ffrâm R5 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88. Efo gwres diesel ar gyfer y tymhorau oerach.
112 1991 Atgyweiriwyd gan Rheilffordd Carnforth a Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn/1/1 19 + 8 Efo gwres diesel ar gyfer y tymhorau oerach. Corff Alwminiwm ar is-ffrâm ddur a bogiau patrwm 88.
113 1991 Atgyweiriwyd gan Rheilffordd Carnforth a Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn /1/1 23 Corff Alwminiwm ar is-ffrâm ddur a bogiau patrwm 88. Trosglwyddwyd i Reilffordd Eryri rhwng 2003 a 2009. Seddi dosbarth cyntaf yn lle seddi 'Pullman' yn gerbyd 101 Cafwyd gwared o wres nwy ar drosglwyddiad i Reilffordd Eryri
114 1991 Atgyweiriwyd gan Rheilffordd Carnforth a Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn/Bwffe 19 Efo gwres nwy ar gyfer y tymhorau oerach. Corff Alwminiwm ar is-ffrâm ddur a bogiau patrwm 88.
116 1972 Edmund Crow and Gweithdy Boston Lodge 'Enhanced' 3 Salŵn 36 Gosodwyd corff cyn-ddelw alwminiwm yng Ngweithdy Boston Lodge. Ailadeiladwyd ym 1982 a 2008, pan gafwyd gwared o'r adran ddosbarth cyntaf a ffitiwyd gwres diesel.
117 1977 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn 35 Efo gwres nwy ar gyfer y tymhorau oerach. Corff dur ar is-ffrâm R5 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88.
118 1977 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn 35 Corff dur ar is-ffrâm R5 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88.
119 1980 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn/ toiled 32 Corff dur ar is-ffrâm R5 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88.
120 1980 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn/ toiled 32 Corff dur ar is-ffrâm R5 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88..
121 1981 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn 39 Corff dur ar is-ffrâm R7 o'r Rheilffordd Ynys Manaw a bogiau patrwm 88. gafwyd gwared o system wres yn 2003. Tynnwyd allan o waith yn 2005, Ail-ddefnyddiwyd ei is-ffrâm ar gerbyd 124.
122 2001 Gweithdy Boston Lodge 3 Salŵn 36 Cynllun cyn-ddelw addas i bobl anabl. Efo gwres diesel ar gyfer y tymhorau oerach.
123 1970 Gweithdy Boston Lodge 1 Salŵn Gwylio/1 Salŵn /G 18 Yn wreiddiol rhif 101, Salŵn Gwylio dosbarth cyntaf o'r cerbydau Canmlwyddiant. Efo seddi tro ar ben Gwylio. Gweithiodd ar Reilffordd Eryri o 2006 ymlaen, pan ffitiwyd seddi dosbarth cyntaf o gerbyd 113, yn lle'r seddi 'Pullman'. Dychwelodd i'r Ffestiniog yn 2009 a phenderfynwyd i'w atgyweirio ac ei droi, efo'i ben Gwylio'n wynebu Blaenau, Ail-rifwyd i 123. Ail-ddechreuodd waith yn 2010.
124 2007 Gweithdy Boston Lodge Gard / toiled / Bwffe 0 Ail-ddefnyddiwyd is-ffrâm Ynys Manaw R7 o gerbyd 121 efo corff tebyg i gerbydau Canmlwyddiant. Yr un cyntaf o'r cerbydau cynhaliaeth newydd. Yn cynnwys generadur ar gyfer gwres ac arlwyaeth.
1111 1997 Bloomfield Steel Construction Co, Tipton a Gweithdy Boston Lodge Salŵn/cegin/toiled - Ffitiwyd corff y cerbyd yng Ngweithdy Boston Lodge fel cerbyd bwyta a gwasanaethu ar gyfer gweithwyr yn cynnal y lein. Mae'r cerbyd yn 40 troedfedd o hyd, yr un hiraf ar y rheilffordd, ond braidd yn gul i ganiatáu cerdded heibio ar leoliadau anghyfleus ar y lein. Heb gysylltiadau 'Chopper'. Er ganddo breciau gwactod, dydy trenau Ffestiniog ddim yn eu defnyddio nhw, gan fod trenau cynnal a chadw ddim yn defnyddio y fath breciau trwodd y trên. Yn aml, mae 1111 yn gweithredu fel fan brêc.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Boyd, James I.C. (1975). The Festiniog Railway 1800 - 1974; Vol. 1 - History and Route. Blandford: Oakwood Press
  • Boyd, James I.C. (1975). The Festiniog Railway 1800 - 1974; Vol. 2 - Locomotives and Rolling Stock; Quarries and Branches: Rebirth 1954-74. Blandford: Oakwood Press.
  • Ove Arup & Partners; Report on a Rock Fall at Penlan, Ffestiniog Railway, 1979
  • E. Beazley; Madocks and the Wonder of Wales, 1967
  • R. F. Bleasdale; Spooner Album, 1887, ail-gyhoeddi efo sylwadaeth gan A. Gray, 2003
  • D. Blenkinsop; Linda & Blanche 1993
  • J. I. C. Boyd; Narrow Gauge Rails to Portmadoc, 1949
  • J. I. C. Boyd; On the Welsh Narrow Gauge, heb dyddiad (1970au)
  • J. Buck; Discovering Narrow Gauge Railways, 1972
  • D. J. Charlton; FR Spotter's Guide; 2001
  • C. F. Cliffe; Book of North Wales, 1850
  • W. J. K. Davies; Narrow Gauge Railways, 1962
  • R. Edwards a P. Moss (golygyddion); Festiniog Railway Historic Drawings, 1997
  • R. F. Fairlie; Battle of the Gauges renewed, 1872
  • R. F. Fairlie; Locomotive Engines, what they are and what they should be, 1881, ailargraffiad 1969
  • Festiniog Railway Co.; Share prospectus, Traveller's Guides, Stock Books, Guide Books (tua 40 ohonynt), 1957–2005
  • Festiniog Railway Society; cylchlythyrau 1954-7;
  • Festiniog Railway Society; FR Magazine, yn chwarterol ers 1958 - Ffestiniog ers 1994
  • A. Gray; The Spooner Album, 2003. Gweler hefyd Bleasdale.
  • N. F. Gurley; Narrow Gauge Steam out of Portmadoc, 1980
  • L. Heath-Humphrys; llythyr i Railway Gazette, 27 Gorffennaf 1951
  • G. T. Heavyside; Narrow Gauge into the 80s, 1980
  • B. Hollingsworth; Ffestiniog Adventure; The Festiniog Railway's Deviation Project. Newton Abbot: David a Charles.
  • F. H. Howson; Narrow Gauge Railways of Britain, 1948
  • P. N. Jarvis; Adeiladu Muriau Cerrig Sych - dry stone walling on the Ffestiniog Railway, 1993, fersiwn diwygiedig 1995
  • P. Johnson; Ffestiniog Railway - a View from the Past, 1997
  • P. Johnson; An Illustrated History of the Festiniog Railway 1832-1954, 2007
  • P. Johnson; Immortal Rails; the Story of the Closure and Revival of the Ffestiniog Railway 1939-1983 Vol.I 2004, 2004, ISBN 1-900622-08-4 £35; Vol.II 2005 ISBN 1-900622-09-2 £35. Rail Romances, Caer.
  • P. Johnson; Portrait of the Ffestiniog, 1992
  • P. Johnson; Welsh Narrow gauge; a view from the past, 1992
  • P. Johnson; Welsh Narrow Gauge in colour, 1992
  • P. Johnson & C.M. Whitehouse; Ffestiniog mewn lliw, 1995
  • J. R. Jones & A.Pritchard; Great Little Steam Railways of Wales, 1991
  • F. Jux; British Narrow gauge Steam, 1960
  • R. W. Kidner; Narrow Gauge Railways of Wales, 1947
  • M. Kington; Steaming through Britain, 1990
  • C. E. Lee; Narrow Gauge Railways in North Wales, 1945
  • M. J. T. Lewis; How Ffestiniog got its Railway, 1965, fersiwn diwygiedig 1968
  • J. G. V. Mitchell & A.G.W. Garraway; Festiniog in the Fifties, 1997
  • J. G. V. Mitchell & A.G.W. Garraway; Festiniog in the Sixties, 1997
  • J. G. V. Mitchell & A.G.W. Garraway; Return to Blaenau 1970-82, 2001
  • J. C. V. Mitchell, Smith, Seymour, Gray; Branch lines around Porthmadog, 2 gyfrol, 1993
  • F. H. Pole (golygydd); Welsh Mountain Railways, 1924, ailargraffiad 1985
  • J. D. C. A. Prideaux; Welsh Narrow Gauge Railway, 1976
  • P. J. G. Ransom; Narrow Gauge Steam, 1996
  • P. J. G. Ransom; Locomotion, 2001
  • A. Roberts; Gossiping Guide to North Wales, 1879 (mae'r fersiwn 5 swllt yn llawer gwell na'r un 6c)
  • L. J. Roberts; Festiniog & Welsh Highland Holiday book, 1923
  • P. Roberts a John Shackell. The Ffestiniog Adventure. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch.
  • H. R. Schwabe; Mit Volldampf nach Ffestiniog, 1978
  • C. E. Spooner; Narrow Gauge Railways, 1871, fersiwn diwygiedig 1879
  • H. Stretton; Past & Present Companion; Ffestiniog Railway, 1998
  • M. J. Stretton; Festiniog Railway in Camera, 1971-1971, fersiwn diwygiedig 1999
  • 'Taliesin' (C. R. Weaver et al.); Festiniog Railway locomotives, 1988
  • J. Timpson; Little Trains of Britain, 1992
  • E. Vignes; Étude technique sur le chemin de fer Festiniog, 1878, Trosiad i Saesneg gan Don Boreham 1986
  • F. T. Wayne; "When Accounts become misleading Nonsense", Accountancy, Tachwedd 1961
  • C. R. Weaver; Festiniog Railway Locomotives. Caerlyr: AB Publishing.
  • P. B. Whitehouse; Festiniog Railway Revival, 1963
  • P. B. Whitehouse; Welsh Narrow Gauge Album, 1969
  • P. B. Whitehouse & P.C. Allen; Round the World on Narrow Gauge, 1966
  • P. B. Whitehouse & P.C. Allen; Narrow Gauge the World over, 1976
  • C. Winchester & C.J. Allen,(eds.); Railway Wonders of the World, Cyfrol 2, tudalennau1224–28. tua 1938.
  • J. Winton; Little Wonder, 1975, fersiwn diwygiedig 1986

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan llechi Cymru
  2. 2.0 2.1 Gwefan Transport Heritage
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Tudalen Rheilffordd Ffestiniog ar wefan Cyrnol Stephens
  4. Gwefan steam index
  5. N. F. Gurley; Narrow Gauge Steam out of Portmadoc, 1980
  6. "Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2012-11-30.
  7. "Gwefan Rheilffordd Ffestiniog". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 2012-11-30.
  8. Gwefan Cymdeithas y Rheilffordd Ffestiniog
  9. "Festipedia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-09. Cyrchwyd 2012-11-30.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: