Glyn Wise
Cyflwynydd radio Cymreig a chyn-gystadleuydd Big Brother a gard bywyd mewn pwll nofio yw Glyn Thomas Wise (ganwyd 9 Ionawr 1988). Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd, mynychodd Ysgol y Moelwyn cyn symud i Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst lle roedd yn Brif Fachgen.[1] Mae eisoes yn byw yng Nghaerdydd. Cymraeg yw ei iaith gyntaf ac wrth ymddangos yn rhaglen Big Brother 7, bu'n aml yn siarad yn Gymraeg â'i gyd-gystadleuydd Imogen Thomas a chyfieithwyd eu sgyrsiau gydag is-deitlau.
Tra yn y tŷ dysgodd Glyn nifer o sgiliau yn y gegin, megis berwi wy - dathlodd hyn drwy ganu cân yn fyrfyr. Dysgodd Richard ef sut i olchi ei ddillad. Newidiodd ei steil gwallt yn aml tra yn y tŷ, ynghyd â Pete, gan ei gadw'n flêr, ei eillio a'i liwio yn amryw o liwiau gwahanol. Yn y rownd derfynol daeth Glyn yn ail, gyda 38.8% o'r bleidlais.
Yn dilyn ei ymadawiad o'r tŷ, ymddangosodd Glyn ar nifer o raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys ar sianeli S4C a Radio Cymru. Mae'n DJ rheolaidd ar raglen C2 Radio Cymru erbyn hyn, ac mae i'w glywed ar yr awyr bob nos Fercher a nos Iau gyda Magi Dodd rhwng 8 a 10 y nos.[2] Mae hefyd wedi ymddangos mewn hysbyseb yn y ddwy iaith, yn hybu rhoi gwaed. Animeiddiwyd Glyn ar gyfer cartŵn S4C, Cnex.[3] Cyflwynodd raglen Planed Plant ar 30 Hydref 2006.[4] Ymddangosodd fel mentor ar raglen The Big Welsh Challenge yn 2007, yn dysgu Di Botcher i siarad Cymraeg mewn 12 mis. Roedd Glyn wedi datgan ei awydd i fod yn athro Cymraeg yn nhŷ Big Brother.[5]
Lansiodd Glyn ei lyfr Blwyddyn Fawr Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2007. Golygwyd y llyfr gan Beca Brown, ac mae'r llyfr yn un hunangofiannol â phwyslais ar ei flwyddyn ers gadael Big Brother.[6]
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Ffynonellau
- ↑ Lleol i Mi: Glyn Wise - Cyflwynydd radio a wnaeth ei enw fel cystadleuydd ar Big Brother. BBC.
- ↑ Cyflwynwyr: Glyn Wise. BBC Cymru.
- ↑ Cnex.
- ↑ Glyn Wise presenting S4C Welsh children's TV programme 'Planet Plant', Wales, Britain - 30 Oct 2006.
- ↑ Celebrity Team: Glyn Wise. The Big Welsh Challenge, BBC.
- ↑ Glyn Wise (Mai 2007). gol. Beca Brown: Blwyddyn Fawr Glyn Wise. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845271039. URL