Llwybr Llaethog (band)
| Llwybr Llaethog | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Dawns arbrofol |
| Blynyddoedd | 1985– |
| Label(i) recordio | Anhrefn, Side Effects, Pinpoint Records, ROIR, Ankst, Neud Nid Deud, Fitamin Un, Crai, Rasal |
| Gwefan | http://uk.geocities.com/llwybr_llaethog/ |
| Aelodau | |
| John Griffiths Kevs Ford |
|
| Prif offeryn(au) | |
| Allweddellau, synth, llais | |
Band dawns arbrofol Gymraeg yw Llwybr Llaethog, sy'n cymysgu genres megis rap, dub, reggae, hip hop a pync yn eu cerddoriaeth.
Sefydlwyd ym Mlaenau Ffestiniog, yn 1985 gan John Griffiths a Kevs Ford, dau lanc a dyfodd i fynnu yn hen amgylchedd ddiwydianol y dref. Dylanwadwyd y ddau gan gerddoriaeth reggae a pync y 70au. Wedi sawl cais anlwyddianus i greu band, cafodd John Griffiths ei ail-ysgogi tra ar wyliau yn Efrog Neydd yn 1984.[1] Roedd grŵp o bobol ifanc mewn clwb nos breakdancing, a seiniau DJ Red Alert wedi gadael argraffiad cryf arno.
Wedi dychwelyd i Gymru, roedd Griffiths yn benderfynnol o briodi cerddoriaeth hip hop a gwleidyddiaeth y chwith eithafol gyda'r iaith Gymraeg. Daeth EP cyntaf Llwybr Llaethog, Dull Di Drais, allan ar label Anhrefn yn 1986.
Cynnwys |
Disgograffi[golygu]
Senglau[golygu]
- Dull Di-Drais 7" - Anhrefn (1986)
- Tour De France 7" - Anhrefn (1987)
- Pam? 12" - Pinpoint Records (1988)
- Ni Fydd Y Chwyldro... 7" - Ankst (1992)
- Soccer MC 12" - Ankst (1996)
- Mera Desh 7" - Ankst (1997)
- Llanrwst (Ail-gymysgiad can Y Cyrff, Cymru, Lloegr a Llanrwst) - Fitamin Un (2001)
Albymau[golygu]
- Da! - Side Effects (1988)
- Be? - Pinpoint Records (1990)
- LL. LL. v T.G. - Ankst (1991)
- Mewn Dyb (In Dub) - ROIR (1991)
- Mad - Ankst (1996)
- Drilacila-(Croeso'99) - Ankst (1999)
- Hip Dub Reggae Hop - Ankst (2000)
- Stwff - Neud Nid Deud (2001)
- Anomie-Ville - Crai (2002)
- Mega Tidy - Rasal (2005)
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Wales Music : Llwybr Llaethog. BBC (30 Gorffennaf 2009).