Gwyn Thomas (bardd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl hon yn trafod y bardd Cymraeg ac ysgolhaig. Os am ddarllen am y llenor Eingl-gymreig Gwyn Thomas pwyswch yma.

Bardd Cymraeg ac ysgolhaig yw Gwyn Thomas (1936 - ). Ganed ef yn Nhanygrisiau a chafodd ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog. Am flynyddoedd lawer bu'n athro yn yr Adran Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ac yn ddiweddarach yn bennaeth yr adran honno. Yn 2006 cafodd ei gyhoeddi yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Mae ei ddefnydd o ymadroddion Cymraeg llafar toredig, ansicr a Seisnigedig yn nodweddiadol o'i waith.

Gweithiau[golygu]

Ysgolheictod[golygu]

  • Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (1971). Astudiaeth o waith Ellis Wynne.
  • Yr Aelwyd Hon (1970). Gwaith y Cynfeirdd.
  • Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976).
  • Gruffydd ab yr Ynad Coch (1982). Barddoniaeth Gruffudd ab Yr Ynad Coch, un o'r pennaf o Feirdd y Tywysogion.
  • Ymarfer Ysgrifennu (1977)
  • Presenting Saunders Lewis (1973) - cyd-olygydd
  • Detholiad o'i Gerddi gan Zbigniew Herbert, cyfieithwyd gan Gwyn Thomas, J Elwyn Jones, Nesta Wyn Jones. 'Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V' 1985
  • Diwéddgan (1969), cyfieithiad o Fin de Partie gan Samuel Beckett yn y gyfres Y Ddrama yn Ewrop; roedd hefyd yn olygydd y gyfres
  • diweddariad o Pedair Cainc y Mabinogi (1984)
  • Tales from the Mabiniogion (1984) - cyfieithiad o rai o'r Mabinogion ar y cyd â Kevin Crossley-Holland
  • Duwiau'r Celtiaid (1992) 'Llyfrau Llafar Gwlad'; Gwasg Carreg Gwalch
  • Gair am Air - Ystyriaethau am Faterion Llenyddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • Dafydd ap Gwilym: Y Gŵr wrth Gerdd (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2003)

Barddoniaeth[golygu]

Dramâu[golygu]

  • Lliw'r Delyn (1969)
  • Amser Dyn (1972) Gwasg Gee

Ysgrifau[golygu]

  • Sawl Math o Gath (2002) Gwasg Carreg Gwalch

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Alan Llwyd, Gwyn Thomas yn y gyfres Llên y Llenor (Caerdydd, 1984)
Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.