Super Furry Animals

Oddi ar Wicipedia
Super Furry Animals
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioEpic Records, Creation Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1993 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
Genreroc amgen, seicadelia newydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHuw Bunford, Gruff Rhys, Cian Ciarán, Dafydd Ieuan, Guto Pryce Edit this on Wikidata
Enw brodorolSuper Furry Animals Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.superfurry.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band roc arbrofol o Gymru yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Super Furry Animals, a adnabyddir hefyd dan y byrenwau Super Furries neu SFA. Mae'r band wedi ei ffurfio o weddillion Ffa Coffi Pawb a oedd yn cynnwys Gruff Rhys a Dafydd Ieuan fel aelodau gwreiddiol. Maent yn enwog yng Nghymru am yr albwm Mwng [1] Archifwyd 2007-12-04 yn y Peiriant Wayback. sef y cryno ddisg mwyaf llwyddiannus o ran gwerthiant erioed yn yr iaith Gymraeg.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yng nghanol twf y grwpiau 'Cŵl Cymru' yng nghanol y 1990au, aeth Dafydd Ieuan (drymiwr gyda Catatonia) ati i berswadio Gruff Rhys i ddychwelyd o fod yn artist yn Sbaen er mwyn ffurfio band newydd. Y nod oedd manteisio ar y sylw roedd y diwydiant recordiau yn Llundain yn dangos tuag at gerddoriaeth o Gymru.

Yn syth, sicrhaodd record cynta'r grwp, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (In Space) ar label Ankst yn 1995, gytundeb recordio efo label pwysica'r cyfnod - Creation Records.

Yn wahanol i stori Ffa Coffi Pawb (grŵp Dafydd a Gruff yn yr 80au) llwyddodd y Super Furry Animals i droi'r freuddwyd pop yn realiti. Wnaethon nhw osod eu hunain ar unwaith yng nghanol y byd 'Britpop' a mynnu sylw a chlod am greu cerddoriaeth llawn dychymyg oedd ben ac ysgwydd uwchlaw gweddill grwpiau ystrydebol y cyfnod.

Ar ddechrau ei gyrfa, recordiodd y grŵp cyfres o albymau gwych - Fuzzy Logic (1996), Radiator (1998), a Guerilla (1999) - yn arddangos gallu arallfydol Gruff Rhys i sgrifennu clasuron pop.

Ers y cychwyn mae'r SFA wedi gweithio'n ddi-ddiwedd i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cyrraedd y gynulleifa fwya posib - gan deithio bob man ar draws y byd ac ymddangos ar bob rhaglen deledu o Top of the Pops i Richard and Judy. Yn ôl Gruff, "does gan y grŵp ddim problem efo chwarae'r gêm yma".

Mae'r gêm yn cynnwys cludo tanc ffyri i wyliau roc, uniaethu efo Howard Marks - gwerthwr cyffuriau mwya'r byd, creu cymeriadau awyr anferth, chwarae gigs roc sy'n troi'n naturiol mewn i rêfs ecstatig, saethu fideos pop yng Ngholombia, noddi clwb pêl-droed, chwarae trwy systemau sain quadraphonic, recordio sengl sy'n cynnwys mwy o regfeydd nag unrhyw record erioed o'r blaen, a rhyddhau albym yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y siartiau Prydeinig.

Fel grŵp maen nhw wedi swyno'r wasg a'r gynulleidfa efo'u Cymreictod naturiol a'u gallu i wyrdroi'r hen drefn ddiflas o fod mewn band, gyda deallusrwydd ac arddulliau o'r byd celf.

Rhyddhawyd yr albwm diweddaraf, Dark Days, Light Years yn 2009 (Rough Trade Records) ac ers hynny mae'r band wedi canolbwyntio ar waith unigol gyda Gruff Rhys yn arbennig o weithgar yn rhyddhau nifer o albymau fel CandyLion a Hotel Shampoo a'i brosiect llwyddiannus Neon Neon. Bu sibrydion fod y band wedi chwalu ond mae yna obaith y bydd SFA yn dychwelyd unwaith eto gydag albwm newydd yn y dyfodol agos.

Does na ddim byd sy'n arferol am y Super Furry Animals er bod eu credo yn un syml, yn ôl Gruff: "da ni'n obsessed efo miwsic a jest isio creu albyms ffantastic".

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

Senglau[golygu | golygu cod]

DVD[golygu | golygu cod]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.