Love Kraft

Oddi ar Wicipedia
Love Kraft
Clawr Love Kraft
Albwm stiwdio gan Super Furry Animals
Rhyddhawyd 22 Awst 2005
Recordiwyd Figueres, Sbaen; Pleasure Foxxx, Caerdydd; The Dairy, Brixton; Stir Studios, Caerdydd
Genre Roc
Hyd 54:22
Label Epic
Cynhyrchydd Mario Caldato Jr, Super Furry Animals
Cronoleg Super Furry Animals
Songbook: The Singles, Vol. 1
(2004)
Love Kraft
(2005)
Hey Venus!
(2007)

Y seithfed albwm stiwdio gan y band Cymreig, Super Furry Animals, yw Love Kraft, a ryddhawyd ar 22 Awst 2005 ar label Epic Records yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r albwm wedi ei enwi ar ôl siop ryw, Love Craft, ger swyddfeydd Ankst Management yng Nghaerdydd, ond fel dywedodd y drymiwr Dafydd Ieuan mewn cyfweliad gyda'r Western Mail yn 2005, mae'r enw'n dod o'r ffaith fod "llawer o'r caneuon ar yr albwm am ferched a chariad, neu ddiffyg cariad, o'i blaid ac yn ei erbyn".[1]

Mae canwr y band, Gruff Rhys, wedi disgrifio'r albwm fel "y record prydferthaf rydan ni wedi ei greu ... yn gerddorfaol iawn a gweddol diamser".[2]

Tarddiad a recordio[golygu | golygu cod]

Recordiwyd Love Kraft yn Figueres, dinas fechan yng Nghatalonia, Sbaen.[3] Yn ôl Rhys, fa ganfyddodd y band eu hunain yn y sefyllfa "anarferol" o recordio eu seithfed albwm i gyd gyda'i gilydd, a dechreuon nhw edrych ar fandiau a oed wedi creu nifer o recordiau, megis Fleetwood Mac a The Beach Boys. Roedd y bandiau wedi creu "recordiau tramor" (Tusk a Holland) felly penderfynnodd y Super Furries i wneud yr un peth ond "ar gyllid llawr tynnach ... gyrron ni ein hoffer i gyd i lawr i Figueres a recordio yno mewn tair wythnos"[3][4]

Cafodd gadael eu stiwio arferol yng Nghaerdydd effaith drom ar y caneuon yn ôl Rhys:

"Recordwyd ef mis Mehefin diwethaf mewn gwres angerddol. Doedden ni ddim wedi arfer â gwres o gwbl, felly mae'n albwm araf iawn. Rydan ni'n ei alw'n ein albwm roc-llaca".[3][5]
Ardal Dyddiad Label Fformat Catalog
Y Deyrnas Unedig 22 Awst 2005 [6] Epic Record finyl 5205011
Crynoddisg 5205012
Super Audio CD 5205016
Traswslwytho
Yr Unol Daleithiau 13 Medi 2005 [6] Beggars Banquet US Record finyl ?
Crynoddisg BXL-047-2
Traswslwytho

Rhestr traciau[golygu | golygu cod]

Super Furry Animals yn perfformio yn fyw yn y V Festival, 2005.

Yr holl ganeuon gan Super Furry Animals. Prif lais gan Gruff Rhys os na noder fel arall.

  1. "Zoom!" – 6:53
  2. "Atomik Lust" – 4:53
  3. "The Horn" – 3:01
  4. "Ohio Heat" – 4:07
  5. "Walk You Home" – 4:00
  6. "Lazer Beam" – 4:55
  7. "Frequency" – 4:39
  8. "Oi Frango" – 2:23
    • Offerynnol
  9. "Psyclone!" – 4:19
  10. "Back on a Roll" – 3:46
    • Prif lais: Huw Bunford
  11. "Cloudberries" – 5:04
  12. "Cabin Fever" – 6:20
    • Prif lais: Dafydd Ieuan a Cian Ciaran

Personel[golygu | golygu cod]

Fe gyfrannodd y bobl a restrir isod at Love Kraft:[7]

Band[golygu | golygu cod]

Cerddorion ychwanegol[golygu | golygu cod]

  • Kris Jenkins – Offerynnau taro
  • Nadia Griffiths – Llais ar "Walk You Home"
  • Debi McLean – Llais gofodol ar "Lazer Beam"
  • Jonathan Thomas – Gitâr llithro ar "Back on a Roll"
  • Jordi – Symbalau bys, clapio
  • Côr CF1 – Côr
  • David Ralicke – Ffliwt
  • Sarah Clarke – Clarinet fâs
  • Tracy Holloway – Trombôn
  • Jeff Daly – Sacsoffôn baritôn
  • Matthew Draper – Cor anglais
  • Marcus Holloway – Sielo
  • Clare Raybould – Feiolin
  • Brian Wright – Feiolin
  • Elspeth Cowey – Feiolin
  • Ellen Blair – Feiolin
  • Amanda Britton – Feiolin
  • Sally Herbert – Feiolin
  • Laura Melhuish – Feiolin
  • Gill Morley – Feiolin
  • Jacqueline Norrie – Feiolin
  • Will Morris Jones – Trefniannau corawl
  • Osian Gwynedd – Trefniannau corawl
  • Sean O'Hagan – Trefniannau corawl, tannau a gwynt
  • Super Furry Animals – Trefniannau tannau a gwynt

Personel recordio[golygu | golygu cod]

  • Mario Caldato Jr. – Cynhyrchu, cymysgu, peiriannu
  • Super Furry Animals – Cynhyrchu, cymysgu, cymysgu sain amgylchu
  • Richard Jackson – Peiriannu (Stir Studios)
  • Greg Jackman – Peiriannu (The Dairy)
  • Jordi – Cynorthwyydd recordio (Musician)
  • Jordan – Cynorthwyydd recordio (Musician)
  • Luizao Dantas – Cynorthwyydd recordio (AR Studios)
  • Leo Moreira – Cynorthwyydd recordio (AR Studios)
  • Sam Wetmore – Cymysgu sain amgylchu

Arlunwaith[golygu | golygu cod]

Album chart positions[golygu | golygu cod]

Siart Safle
uchaf
Siart Albymau Iwerddon 23[8]
U.D.A. Top Heatseekers 38[9]
U.D.A. Albymau Annibynnol Uchaf 47[10]
Siart Albymau y DU 19

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Super Furries define their Kraft :"There are a lot of songs on the album about women and love in general or the lack of it, the pros and cons of it."
  2. Martin Piers. "Album by album: Super Furry Animals", Uncut, Ebrill 2008.  :"The most beautiful record we've made ... really orchestral and fairly timeless".
  3. 3.0 3.1 3.2  Jinman (1 Gorffennaf 2005). 'We call it sludge-rock'. The Guardian.
  4. :"a much tighter budget ... [we] drove all our gear down to Figueres and recorded it in three weeks."
  5. "It was recorded last June in intense heat. We're not used to heat at all, so it's a very slow album. We call it our sludge-rock album".
  6. 6.0 6.1  Zeth Lundy (2005). Love Kraft. PopMatters.
  7. (CD booklet) Love Kraft (CD booklet). London: Epic Records. 2005. pp. [p.10].
  8.  Super Furry Animals - Love Kraft. aCharts (31 Gorffennaf 2008).
  9.  Top Heatseekers: Love Kraft. Billboard.
  10.  Top Independent Albums: Love Kraft. Billboard.