Catatonia
Band Cymreig oedd Catatonia. Yr aelodau oedd Cerys Matthews, Mark Roberts, Paul Jones, Owen Powell, Aled Richards, Dafydd Ieuan, Clancy Pegg a Kris Jenkins, roedd Jevon Hurst yn gyn-aelod. Daethont i'r amlwg yn y Deyrnas Unedig tuag at ddiwedd y 1990au. Roedd Cerys Matthews yn canu, Mark Roberts ar gitar, Paul Jones ar gitar fâs (y ddau hefyd yn gyn-aelodau o'r Ffyrc, Sherbet Antlers ac Cyrff), Owen Powell ar gitar, ac Aled Richards (sydd heddiw'n drymio ar gyfer Amy Wadge) ar y drymiau. Roberts oedd y prif ysgrifennwr caneuon. Newidiodd aelodau'r band yn aml ar y cychwyn, gan gynnwys Clancy Pegg (a ymunodd â'r Tystion yn hwyrach) ar yr allweddellau, Dafydd Ieuan a Kris Jenkins (o'r Super Furry Animals) ar drymiau ac offerynau taro, cyn gorwedd ar y ffurf diweddaraf yn 1995.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Cyfarfu Cerys Matthews â Roberts yng Nghaerydd y tro cyntaf, pan oedd Cerys yn bysgio, dechreuont ysgrifennu caneuon gyda'i gilydd yn 1992. Pedair mlynedd yn ddiweddarach roeddent mewn perthynas â'i gilydd, â sawl agwedd o'r berthynas yn dod i'r amlwg yn eu caneuon ar y pryd [1].
Daeth y cwpl ar draws y gair catatonia, yn credu iddo ystyr mwynhad eithafol a chwsg, enw gwreiddiol y band oedd 'Sweet Catatonia'. Wedi darganfod gwir ystyr y gair (h.e. symptom seiciatreg o rai anhwyldeb meddyliol), cafwyd wared ar y gair 'sweet'. [2]
Dim ond pump sengl Gymraeg/dwyieithog ryddhaodd Catatonio, ac International Velvet oedd yr unig un i gael ei gynnwys mewn albym. Ymddangosodd y lleill i gyd ar Ochrau B a chasgliadau EP.
Wedi dod yn enwog, roedd Cerys Mathews yn ei chael yn anodd ymdopi gyda'r pwysau. Roedd hi'n dioddef o flinder a gohuriwyd sawl taith gyngherddol, a bu dirywiad yn y berthynas rhwng aelodau'r band. Ar 21 Medi, 2001, ar ôl rhyddhau'r albym Paper Scissors Stone, gwahanodd y band yn swyddogol.
Rhyddhaodd Cerys ei halbym gyntaf solo, Cockahoop, yn mis Mai 2003. Rhyddhawyd ei hail albym Never Said Goodbye ym mis Awst 2006.
[golygu] Disgograffi
Mae'r rhifau a ddengys isod yn dangos eu lleoliad uchaf ar siartiau'r Deyrnas Unedig.
[golygu] Albymau
- The Sublime Magic of Catatonia, 1995
- Way Beyond Blue, 1996, #32, Gwerthiant: 40,000
- Tourist, 1996,
- International Velvet, 1998, #1, Gwerthiant: 900,000 (3x platinum)
- The Crai-EPs 1993/1994, 1998
- Equally Cursed and Blessed, 1999, #1, Gwerthiant: 300,000 (platinum)
- Paper Scissors Stone, 2001, #6, Gwerthiant:60,000 (arian)
- Greatest Hits, 2002, #24
[golygu] Seglau/EP
- "For Tinkerbell" (EP) - 1993
- "Hooked" (EP) - 1994
- "Whale" - 1994 (Finyl yn unig)
- "Bleed" - 1995 - #102
- "Christmas '95" - 1995 - Sengl Finyl Fan Club (Ochr-A: "Blow The Millennium, Blow")
- "Sweet Catatonia" - 1996 - #61
- "Lost Cat" - 1996 - #41
- "You've Got a Lot to Answer For" - 1996 - #35
- "Bleed" (re-issued) - 1996 - #46
- "I Am The Mob" - 1997 - #40
- "Mulder and Scully" - 1998 - #3
- "Road Rage - 1998 - #5
- "Strange Glue" - 1998 - #11
- "Game On" - 1998 - #33
- "Dead From the Waist Down" - 1999 - #7
- "Londinium" - 1999 - #20
- "Karaoke Queen" - 1999 - #36
- "Storm The Palace" (EP) - 1999
- "Stone by Stone" - 2001 - #19
[golygu] Cydweithredau
- The Ballad of Tom Jones - Space a Cerys Matthews - 1998 - #4
- Baby, It's Cold Outside - Tom Jones a Cerys Matthews - 1999 - #17
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ http://arts.guardian.co.uk/features/story/0,,958691,00.html
- ↑ http://www.amiright.com/names/origins/c.shtml
[golygu] Llyfryddiaeth
- Cerys, Catatonia & The Rise Of Welsh Pop, Medi 2002, David Owens (ISBN 0-09-187412-2) (rhestrir weithiau odan y teitl drost-dro tra'n ysgrifennu, Catatonia - Enter The Dragon).
- To Hell and Back with Catatonia, 1 Mehefin, 2001, Brian Wright (ISBN 0-946719-36-5)
- Guinness World Records British Hit Singles (Gol David Roberts), 2002, 15fed argraffiad, cyhoeddwyr: Guinness World Records