John Doyle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gitarydd o ardal Bethesda, Gwynedd yw John Doyle (ganwyd 1968).

Ers yr 1980au cynnar, mae John Doyle wedi chwarae mewn sawl band a gyda amryw o artisiaid, gan gynnwys Maffia Mr. Huws a Meic Stevens. Daeth yn fwyaf adnabyddus fel y gitarydd yn y deuawd poblogaidd Iwcs a Doyle o 1996 hyd nes 1998.

Yn ogystal a gweithio fel cerddor, mae John Doyle wedi gweithio fel adeiladwr [1], ac mae hefyd wedi gweithio fel athro gitâr.

Yn 2005, chwaraeodd gitar i'r band Shirimafaro ar y trac Zvinovaka a ymddangosodd ar y CD aml-gyfranog Defaid William Morgan (albwm) [2].

Cyfeirnodau [golygu]