Iwcs a Doyle

Oddi ar Wicipedia
Iwcs a Doyle
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deuawd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg oedd Iwcs a Doyle.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ffurfiodd Iwan Roberts, a John Doyle, y deuawd Iwcs a Doyle ym 1996. Ar y pryd, roedd Iwcs yn gweithio fel actor, a John Doyle yn gweithio fel adeiladwr a cherddor rhan-amser. Penderfynasant ymgeisio yn y gystadleuaeth Cân i Gymru ym Mawrth 1996, a daethant yn fuddugol yn y gystadleuaeth gyda’r gân Cerrig yr Afon.[1]

Albwm a gigiau[golygu | golygu cod]

Ar sail eu llwyddiant yn ngystadleuaeth Cân i Gymru, penderfynnwyd recordio albwm o ganeuon Iwcs a Doyle, a rhyddhawyd Edrychiad Cynta' ym 1997. Bu’r albwm yn llwyddiant ysgubol yn “Siart Cytgord” Radio Cymru a threuliodd hi dros flwyddyn yn rhif un, sy’n gwneud yr albwm hon yr albwm fwyaf llwyddiannus erioed yng Nghymru, ar ôl Mwng gan y Super Furry Animals. Enwyd Iwcs a Doyle fel band mwyaf addawol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997. Teithiodd a gigiodd y deuawd lawer rhwng 1996-1998 gan berfformio mewn theatrau a thafarndai ar hyd a lled Cymru. Mae'n bosib mai un o'u gigiau gorau oedd pan wnaethant berfformio fel un o'r prif actiau yn Sesiwn Fawr Dolgellau 1997 a 1998.

Nodweddir eu cerddoriaeth gan arddull acwstic werinol a pop gyda darnau gitâr cofiadwy gan John Doyle, oedd yn aml yn ymestyn yn achlysurol i arddull funk.

Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]

Albwm[golygu | golygu cod]

Recordiau eraill[golygu | golygu cod]

  • Tri Degawd Sain (CD Aml-gyfranog)(Clywed Sŵn) (Sain SCD2230)
  • Ram Jam Sadwrn (CD Aml-gyfranog)(Da Iawn) (Sain)
  • Gwlad i Mi, Cyfrol 2 (CD Aml-gyfranog)(Ffydd y Crydd)(Sain SCD2166)
  • Gwlad i Mi, Cyfrol 2 (CD Aml-gyfranog)(Clywed Sŵn)(Sain SCD2166)

Sesiynau byw ar Radio Cymru[golygu | golygu cod]

  • Lost Boys (Sesiwn Radio Cymru, 1998)
  • Mama (Sesiwn Radio Cymru, 1998)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]