Taeog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Taeog yn y Canol Oesoedd oedd person oedd yn rhan o haen isaf cymdeithas, oedd yn rhwym wrth y tir a heb hawl i'w adael heb ganiatad ei arglwydd. Roedd gan yr arglwydd neu'r tirfeddiannwr yr hawl i orfodi'r taeog i weithio ar diroedd yr arglwydd yn ddi-dâl. Ar un adeg roedd y system yn gyffredin trwy Ewrop ac mewn rhannau eraill o'r byd, ac mewn rhai gwledydd parhaodd hyd yn 19eg ganrif, er enghraifft yn Rwsia, lle rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861.

Credir i'r system yma ddatblygu o gaethwasiaeth amaethyddol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Taeogion yng Nghymru[golygu]

Yng Nghymru, nodir yng Nghyfraith Hywel fod tri dosbarth mewn cymdeithas: y brenin, y breyr (y tirfeddiannwr rhydd) a'r taeog. Nid oedd y taeog heb hawliau cyfreithiol, ond roeddynt yn llai na hawliau'r ddau ddosbarth arall. Er enghraifft, yn ôl Cyfraith Hywel roedd sarhad taeog yn llai, ac roedd rhai crefftau na allai taeog ei dysgu i'w fab heb ganiatad ei arglwydd, sef gofaniaeth, ysgolheictod a barddoniaeth, oherwydd roedd unrhyw un oedd yn dilyn y swyddogaethau hynny yn ŵr rhydd. Gelwid tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol yn faerdref. Dechreuodd y drefn ddadfeilio oherwydd effeithiau'r Pla Du yn y 14eg ganrif, pan achubodd llawer o daeogion ar y cyfle i adael y tir.

Cyfeiriadau[golygu]