John Elwyn Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfieithydd o'r Almaeneg, Pwyleg a'r Ffrangeg i'r Gymraeg oedd John Elwyn Jones (bu farw 25 Medi 2008). Yn frodor o ardal Dolgellau, magwyd ef ym Mryn Mawr.

Gyrfa [golygu]

Ymunodd â’r Gwarchodlu Cymreig dechrau'r ail ryfel byd ond cymerwyd ef yn garcharor rhyfel ger Boulogne ym 1940. Wedi iddo ddianc, ymunodd â Fyddin Gel y Pwyliaid cyn dychwelyd drwy Sweden yn ôl i Brydain. Anrhydeddwyd ef â Distinguished Conduct Medal am ei waith. Wedi'r rhyfel bu'n athro yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Daeth yn rhugl yn Ffrangeg, Almaeneg, Rwsieg a Phwyleg, mae e wedi cyfieithu tua dwsin o gyfrolau o’r ieithoedd hynny i’r Gymraeg. Yn ogystal â Pum Cynnig i Gymro a 'hunangofiant' a ymddangosodd ym 1971, cyhoeddodd dair cyfrol o hunangofiant o dan y teitl Yn fy Ffordd fy Hun. Bu farw John Elwyn Jones, 25 Medi 2008 yn 87 oed. Roedd ei angladd yng Nghapel yr Annibynwyr, Brithdir, 2 Hydref 2008 dan ofal y Parch. Iwan Llywelyn Jones.

Llyfryddiaeth [golygu]

Cyfieithiadau
Gwaith gwreiddiol

Dolenni allanol [golygu]