Pont Fawr Dolgellau

Oddi ar Wicipedia
Pont Fawr Dolgellau
Mathpont Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDolgellau Edit this on Wikidata
SirDolgellau Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7445°N 3.885°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Y Bont Fawr

Saif Y Bont Fawr ar Afon Wnion, un o lednentydd Afon Mawddach, ar gwr Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd. Cafodd y bont wreiddiol ei hadeiladu yn 1638 ond mae wedi cael ei atgyweirio a'i newid sawl gwaith ers hynny. Mae'n dwyn y briffordd A470 dros afon Wnion.

Codwyd y bont wreiddiol yn 1638 yn bont faen gyda deg bwa, ffaith a gofnodir ar garreg yn ochr ddwyreiniol y bont.[1] Daethpwyd i'w galw "Y Bont Fawr" i wahaniaethu rhyngddi a phont lai yn is i lawr yr afon, sef 'Y Bont Fach'. Collwyd tri o'r bwau gwreiddiol ar yr ochr ogleddol pan adeiladwyd y rheilffordd yn 1868.[2] Yn 1903 gorlifiodd afon Wnion a difrodwyd y bont yn sylweddol.[1]

Yn 1981 bu newidiadau eto pan adeildawyd ffordd osgoi Dolgellau ar hyd llwybr yr hen reilffordd. Wrth ben dwyreiniol y bont, ochr y dref, ceir maes parcio mawr ar lan yr Afon Wnion ac adeilad Neuadd Sir Feirionnydd a ddefnyddir fel llys ynadon. Wrth ymyl y neuadd ceir parc bychan Cae Marian ar lan yr afon. Stryd y Bont yw enw'r stryd sy'n mynd o'r bont i Sgwar Eldon yng nghanol y dref.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Llwybr Tref Dolgellau
  2. "gwefan Heneb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-11. Cyrchwyd 2010-03-13.
  3. 'Rhodfa Tre Dolgellau' (pamffledyn), Cyngor Tref Dolgellau.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato