Beryl Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Beryl Williams
Ganwyd 12 Rhagfyr 1936
Dolgellau, Sir Feirionnydd
Bu farw Mehefin 2004
Dolgellau, Gwynedd
Yn enwog am Nel
Galwedigaeth Actores

Actores Gymreig oedd Beryl Williams (12 Rhagfyr 1937Mehefin 2004). Fe'i ganed yn Nolgellau yn ferch i deiliwr alcoholig.[1] Mynychodd Ysgol breswyl Dr. Williams i ferched wedi iddi dderbyn ysgoloriaeth. Cymrodd ran mewn dramâu yn yr ysgol cyn mynd yn fyfyrwraig i Goleg Drama Rose Bruford yn Llundain. Tra yno, cyfarfu a Freddie Jones sef un o brif actorion y theatr yn Lloegr a datblygodd berthynas rhyngddynt.[2] Serch hynny, ar ôl iddi orffen ei chwrs dychwelodd i Ddolgellau.

Bu'n gweithio fel actores tan y 1990au gan berfformio mewn cynhyrchiadau ar gyfer y BBC, Cwmni Theatr Cymru, ambell gynhyrchiad Saesneg a dramâu S4C yn y 1980au. Bu Williams yn gweithio gyda'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr drama Wilbert Lloyd Roberts ar amryw o ddramâu arloesol gan gynnwys "A Rhai yn Fugeiliaid" gan Islwyn Ffowc Elis (1961) a'r "Byd ar Betws, gyda David Lyn a Gaynor Morgan Rees.

Cyfeiriadau [golygu]