Martin Phillips

Oddi ar Wicipedia
Martin Phillips
Ganwyd30 Ebrill 1960 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr dartiau Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mae Edward Martin Phillips (ganwyd 30 Ebrill 1960) yn chwaraewr dartiau Cymreig a chapten tîm dartiau rhyngwladol Cymru.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Martin Phillips yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor[1] a chafodd ei magu yn Nolgellau cafodd ei addysgu yn Ysgol y Gader Dolgellau. Pan nad ydyw yn chware dartiau yn broffesiynol mae'n gweithio fel casglwr ysbwriel i Gyngor Sir Gwynedd [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

1988-1994[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Phillips ei ymddangosiad cyntaf mewn cystadleuaeth dartiau a ddarlledwyd ar y teledu ym Mhencampwriaeth Proffesiynol Prydain 1988 gan gyrraedd yr 16 olaf. Bu'n rhaid iddo aros hyd 1991 cyn ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd, gan golli yn y rownd gyntaf i'r pencampwr amddiffynnol Phil Taylor.

Ym Mhencampwriaeth y Byd 1992 trechodd Phillips yr Iseldirwr Bert Vlaardingerbroek 3-0 yn y rownd gyntaf; yn yr ail rownd llwyddodd i guro Eric Bristow, a oedd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd 5 gwaith, o 3 set i 2; yn rownd yr 8 olaf cafodd ei drechu unwaith eto gan Taylor, (a aeth ymlaen i ennill ei ail deitl Byd). Bu hefyd yn chwarae ym 1993 a 1994, gan gyrraedd yr ail rownd yn y ddau dwrnamaint, gan golli'r naill a'r llall i Bobby George.

1994-2006[golygu | golygu cod]

Er ei fod wedi methu â chymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Unigol y Byd am nifer o flynyddoedd, cododd dau o deitlau Tîm Parau Cwpan WDF Ewrop, ym 1994 gyda Eric Burden yn bartner iddo ac ym 1998 gyda Sean Palfrey yn bartner iddo. Cafodd llwyddiant hefyd yn Nheitl Barau Cwpan Byd y WDF, eto, efo Palfrey yn bartner iddo ym 1997. Ni fu llwyddiant iddo yn y cystadlaethau unigol ers dros ddegawd, gyda dim ond tri ymddangosiad ganddo yn rownd derfynol Cystadleuaeth Agored Ynys Manaw (1996, 1997 a 2000)

Dychwelodd i Bencampwriaeth Byd y BDO yn 2003, gan golli yn y rownd gyntaf i John Walton, methodd a chymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth yn ystod y tair blynedd dilynol, gan ei adael efo dim ond un ymddangosiad yn y Lakeside mewn 13 mlynedd.

2007-2011[golygu | golygu cod]

Yn 2007 dychwelodd Phillips i'r Lakeside gan golli, eto, yn y rownd gyntaf i'r Albanwr Paul Hanvidge. Ond bu cynnydd yn ei lwyddiant yn ystod 2007 gyda buddugoliaeth twrnamaint yn y Turunç Agored yn Nhwrci, ac ymddangosiadau rownd gyn-derfynol yng Nghystadleuthau Agored Clasur Cymru a Gogledd Iwerddon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. General Register Office. England and Wales Civil Registration Indexes. London, England
  2. http://www.mirror.co.uk/sport/other-sports/darts/daily-mirror-grand-slam-of-darts-260359 Refuse collector Martin Phillips is not a film star, but he is the Dustbin Hoffman of darts