Rowland Ellis

Oddi ar Wicipedia
Rowland Ellis
Ganwyd1650 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farwMedi 1731 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadEllis ap Rhys Alias Ellis Price Edit this on Wikidata
MamAnne Humphrey Edit this on Wikidata
PriodMargaret Roberts Edit this on Wikidata

Crynwr blaenllaw oedd Rowland Ellis (1650 - Medi 1731). Ganed ef yn ffermdy Bryn Mawr, plwyf Dolgellau. Ymunodd â'r Crynwyr tua 1672, a chafodd ei garcharu nifer o weithiau.

Ymfudodd i Pennsylvania yn 1686, ac ymsefydlodd yn Bryn Mawr (Lower Merion yn ddiweddarach). Dychwelodd i Gymru am gyfnod yn 1688, cyn dychwelyd i Pennsylvania gyda rhagor o'i deulu.

Gwesty Bryn Mawr (cyn hynny yn orsaf reilffordd) yn nhref Bryn Mawr, Pennsylvania; 1875.

Cyfieithodd lyfr Ellis Pugh Annerch i'r Cymru (1721) i'r Saesneg, a chyhoeddwyd ef yn Philadelphia yn 1727 fel A Salutation to the Britains. Bu farw yn gynnar ym mis Medi 1731 a chladdwyd ef ym mynwent y Crynwyr yn Plymouth, Pennsylvania.

Enwyd tref Bryn Mawr, Pennsylvania a'r Bryn Mawr College for Women yn Pennsylvania ar ôl tŷ Rowland Ellis ger Dolgellau.

Cymeriad Ellis yn nofelau Marion Eames[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau’r nofel Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames, gwelwn Rowland fel cymeriad cyfoethog. Bonheddwr yw Rowland Ellis sy’n ymddangos yn gymeriad caredig. Down i wybod bod ganddo wraig o'r enw Meg (merch brydferth iawn) Mae o’n ffyddlon ac yn gariadus iawn tuag ati.

Mae'r nofel yn agor gyda golygfa o foddi dynes am y cyhuddir hi o fod yn wrach. Mae'r dorf yn mwynhau hwyl a miri'r ffair. Tra mae'r dorf yn mwynhau asbri a miri yr oes newydd dan y brenin newydd, mae boddi'r wrach yn wrthyn i Ellis.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.