Ioan Bowen Rees

Oddi ar Wicipedia
Ioan Bowen Rees
Ganwyd13 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, dringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cyfreithiwr, swyddog llywodraeth leol ac awdur Cymreig oedd Ioan Bowen Rees (13 Ionawr 19294 Mai 1999).

Ganed ef yn nhref Dolgellau yn fab i athro ysgol, ac astudiodd yn yr ysgol ramadeg ac yna Ysgol Bootham yn Efrog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen cyn dod yn gyfreithiwr i Gyngor Sir Ddinbych. Daeth yn Ysgrifennydd y Sir i'r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1974, ac yn ddiweddarach yn Brif Weithredwr y cyngor hyd ei ymddeoliad yn 1991.

Bu'n ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Conwy yn etholiadau 1955 a 1959 ac ym Merthyr Tydfil yn 1964. Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru. Mae Gruff Rhys o'r Super Furry Animals yn fab iddo.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Galwad y mynydd: chwe dringwr enwog (1961)
  • The Welsh Political Tradition (1961)
  • Dringo mynyddoedd Cymru (1965)
  • Celtic Nationalism (gyda Gwynfor Evans, Hugh MacDiarmid ac Owen Dudley Edwards, 1968)
  • Mynyddoedd: ysgrifau a cherddi (gyda John Wright, 1975)
  • The Mountains of Wales (1987)
  • Cymru heddiw: cenedl ynteu marchnad? (1989)
  • Cymuned a Chenedl (1993)
  • Cymuned a chenedl: ysgrifau ar ymreolaeth (1993)
  • Beyond National Parks (1995)