Cadair Idris
| Cadair Idris Meirionnydd |
|
|---|---|
| Llun | Pen y Gadair ar Gadair Idris |
| Uchder | 893m |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Cymru |
Un o fynyddoedd enwog gogledd Cymru yw Cadair Idris (Cader Idris ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ym Meirionnydd, de Gwynedd, ger Dolgellau, ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ganddo bedwar copa sef Geugraig, yna tua'r gorllewin Mynydd Moel, wedyn Pen y Gadair ei hun ac (sef y fam-gopa) yna'r Cyfrwy a'r Tyrau Mawr yn ymestyn i'r dwyrain tua'r môr. Mae Pen y Gadair 893 metr uwch ben lefel y môr.
Mae cwt cysgodi ar gopa Pen y Gadair, ac yn ôl hen dradoddiad, bydd pob un a gwsg ar y mynydd, yn deffro naill ai fel bardd neu fel gwallgofddyn.
Cynnwys |
Idris a'i gadair! [golygu]
Yn ôl traddodiad enwir y mynydd ar ôl y cawr Idris. Roedd yn bennaeth ar dri chawr arall yn yr ardal, Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn, ac mae eu henwau hwythau ar y bryniau hefyd. Un o hen ystyron y gair 'cadair' yw 'gorsedd'. Yno yn nghwm Llyn y Gadair roedd y cawr yn eistedd. Roedd yn enwog am ei wybodaeth o'r sêr a dywedir ei fod yn eistedd ar ben Cader Idris i'w gwylio.
Mae'n eithaf posib, fodd bynnag, mai'r un tarddiad sydd i'r gair â chadair buwch, neu ferch - bron.
copaon [golygu]
|
|
|||
|---|---|---|---|
| Enw | Cyfesurynnau OS | Cyfesurynnau Daearyddol | |
| Braich Ddu (Craig Cwm-llwyd): | SH645120 | map | 52.688°N, 4.006°W |
| Bryn Brith: | SH664153 | map | 52.718°N, 3.979°W |
| Cadair Idris - Penygadair: | SH711130 | map | 52.699°N, 3.908°W |
| Ceiswyn: | SH745109 | map | 52.681°N, 3.857°W |
| Corlan Fraith: | SH630000 | map | 52.58°N, 4.023°W |
| Craig Cwm Amarch: | SH710121 | map | 52.691°N, 3.91°W |
| Craig Lwyd: | SH714118 | map | 52.688°N, 3.904°W |
| Craig Portas: | SH801141 | map | 52.711°N, 3.776°W |
| Craig Portas (copa dwyreiniol): | SH808142 | map | 52.712°N, 3.765°W |
| Craig y Castell: | SH697161 | map | 52.726°N, 3.93°W |
| Craig-las (Tyrrau Mawr): | SH677135 | map | 52.702°N, 3.959°W |
| Craig-y-llyn: | SH665119 | map | 52.688°N, 3.976°W |
| Cribin Fawr: | SH794152 | map | 52.72°N, 3.787°W |
| Cyfrwy: | SH703133 | map | 52.701°N, 3.92°W |
| Esgair Berfa: | SH637095 | map | 52.666°N, 4.016°W |
| Ffridd Cocyn: | SH624042 | map | 52.618°N, 4.033°W |
| Ffridd-yr-Ychen: | SN640977 | map | 52.56°N, 4.007°W |
| Foel Cae'rberllan: | SH676082 | map | 52.655°N, 3.958°W |
| Foel Ddu: | SH697095 | map | 52.667°N, 3.928°W |
| Foel Dinas: | SH842143 | map | 52.713°N, 3.715°W |
| Foel y Geifr (Bro Dysynni): | SH716050 | map | 52.627°N, 3.898°W |
| Gamallt: | SH665067 | map | 52.641°N, 3.974°W |
| Gau Graig: | SH744141 | map | 52.709°N, 3.86°W |
| Godre Fynydd: | SH756097 | map | 52.67°N, 3.841°W |
| Graig Goch: | SH714084 | map | 52.658°N, 3.902°W |
| Maesglase (hen GR) - Maen Du: | SH822151 | map | 52.72°N, 3.745°W |
| Maesglase (copa gorllewinol): | SH817150 | map | 52.719°N, 3.752°W |
| Mynydd Braich-goch: | SH729072 | map | 52.647°N, 3.88°W |
| Mynydd Ceiswyn: | SH772139 | map | 52.708°N, 3.819°W |
| Mynydd Cwmcelli: | SH804099 | map | 52.673°N, 3.77°W |
| Mynydd Cwmeiddew: | SH750106 | map | 52.678°N, 3.85°W |
| Mynydd Fron-fraith: | SH747117 | map | 52.688°N, 3.855°W |
| Mynydd Gwerngraig: | SH736136 | map | 52.705°N, 3.872°W |
| Mynydd Moel: | SH727136 | map | 52.705°N, 3.885°W |
| Mynydd Pencoed: | SH704117 | map | 52.687°N, 3.918°W |
| Mynydd Rhyd-galed (copa dwyreiniol Tarrenhendre): | SH699043 | map | 52.62°N, 3.923°W |
| Pared y Cefn-hir: | SH662149 | map | 52.715°N, 3.982°W |
| Pen Trum-gwr: | SH651029 | map | 52.607°N, 3.993°W |
| Tal y Gareg: | SH579041 | map | 52.616°N, 4.1°W |
| Tarren Cwm-ffernol: | SH659023 | map | 52.601°N, 3.981°W |
| Tarren y Gesail: | SH710058 | map | 52.634°N, 3.907°W |
| Tarrenhendre: | SH682041 | map | 52.618°N, 3.948°W |
| Waun-oer: | SH785147 | map | 52.716°N, 3.8°W |
Llwybrau [golygu]
Ymhlith y llwybrau ar y Gader ceir:
- Llwybr Pilin Pwn
Yn ôl yr awdures Bethan Gwanas yn ei llyfr Y Mynydd Hwn, y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pilin Pwn sef yr un a adnabyddir yn Saesneg fel y "Pony Track". Mae'n cychwyn o Ddolgellau ac yn golygu 2,000 troedfedd o ddringo mewn 5 km.
- Llwybr Minffordd
Llwybr sy'n dechrau ger Llyn Myngul ac sy'n mynd heibio Llyn Cau. Ei hyd yw 4.4 cilometr (2.7 milltir).
- Llwybr Madyn
Mae Llwybr Madyn (neu Llwybr y Llwynog; "Foxes Path" yn Saesneg) yn llwybr 3.8 kilometr (2.4 milltir) o hyd sy'n cynnwys dringo 310 metr o gerrig mân (sgri). Dyma'r llwybr mwyaf uniongyrchol ond mae'r rhan olaf yn dioddef o erydu am ei fod mor boblogaidd.
Hen benillion [golygu]
Ceir sawl un o'r Hen Benillion sy'n ymwneud â Chadair Idris:
- Os oes coel ar bennau'r moelydd,
- Buan daw yn chwerw dywydd;
- Pan fo niwl ar Gadair Idris,
- Yn ei thŷ ceir Lowri Lewis.[1]
- Pe bae Cadair Idris Fawr
- Yn siwgwr gwyn o'i phen i lawr,
- A dail y coed i gyd yn de,
- Cystal gwlad drachefn â'r dre.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 350.