Idris Gawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cawr a gysylltir ag ardal Cadair Idris ym Meirionnydd oedd Idris Gawr neu Idris.

Yn ôl y rhestr o gewri Cymru a luniwyd gan yr hynafiaethydd Siôn Dafydd Rhys tua diwedd yr 16eg ganrif, Idris oedd y pennaf o bedwar cawr oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas Dolgellau (Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn oedd enwau'r lleill, a cheir yr enwau ar fryniau yn y cylch heddiw).

Ceir bryngaer o'r enw Caer Idris ar Ynys Môn, ond ymddengys nad oes traddodiad ar glawr i'w chysylltu ag Idris Gawr.

Cader Idris[golygu]

Cysylltir Idris â'r mynydd sy'n dwyn ei enw i'r dwyrain o Ddolgellau. Byddai'n arfer mynd i gwm uchel ar y mynydd ac eistedd yno i astudio'r sêr, a dyna sut y cafodd y copa yr enw Cader Idris, yn ôl y chwedl. Dywedir hefyd y byddai unrhyw un a dreuliai'r noson ar gopa Cader Idris ar ei ben ei hun yn dod i lawr yn y bore yn wallgo neu'n fardd. Ceir 'Gwely Idris' ar y mynydd ger Llyn y Gader hefyd.

Idris ap Gwyddno[golygu]

Brenin Cantref Meirionnydd oedd Idris ap Gwyddno, a fu farw yn ôl y blwyddnodion Cymreig yn y flwyddyn 636 mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid ar lannau'r Afon Hafren, ac a oedd, yn ôl blwyddnodion Ulster yn herio pendefigaeth Gwynedd dros Feirion a Mawddwy. Yr oedd gan Idris ap Gwyddno Bryngaer neu Kadr (lle cadarn) ar lethrau Cader Idris, ac yr oedd yn arbenigwr ar seryddiaeth. Mae'n debyg gan hynny mae'r gŵr mawr hwn yn eistedd yn ei Gadr ac yn cyffwrdd y sêr oedd sylfaen mytholeg Idris y Cawr a'i gadair ger Dolgellau. [1]

Cerrig Esgid Idris[golygu]

Ar ffordd yr A487 - rhwng Tafarn y Cross Foxes a Chorris mae yna nifer o gerig anferth ar ochr y lôn a symudwyd yno, yn ôl pob tebyg, wrth i'r iâ toddi ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf. Yn ôl chwedloniaeth leol cerrig a daflodd Idris Gawr allan o'i esgidiau ydynt, wrth iddo deimlo'n anghyffyrddus wrth gerdded o'i gader i fynd i ymofyn diod o ddŵr o Lyn Mwyngil

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Smith, J B a Smith, Ll B; T4 History of Merioneth Volume II Gwasg Prifysgol Cymru 2001 ISBN0-7083-1709-X
  • Siôn Dafydd Rhys, 'Olion Cewri', yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
  • T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)

Gweler hefyd[golygu]