Mike Peters
| Mike Peters | |
|---|---|
![]() Mike Peters yn perfformio yn 2008 |
|
| Ganwyd | 25 Chwefror, 1959 Prestatyn, Sir Ddinbych, |
| Yn enwog am | Prif leisydd y grŵp roc The Alarm |
| Galwedigaeth | Cerddor |
Cerddor yw Mike Peters (ganed 25 Chwefror 1959 ym Mhrestatyn), adnabyddir ef orau fel blaenwr y grŵp roc, The Alarm. Erbyn heddiw mae'n byw tair milltir i ffwrdd o'i gartref enedigol yn Nyserth. Ym Mhrestatyn chwaraeodd yr Alarm eu gig cyntaf yn 1981. Dechreuodd ei yrfa yn y byd cerddoriaeth yng nghanol yr 1970au gyda sawl grẅp amatur. Mae wedi ei ddylanwadu gan gerddoriaeth pync a cherddoriaeth y don newydd a oedd yn boblogaidd yr oes honno.
Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a sefydlodd adran newydd llenyddiaeth Saesneg ar gyfer yr Academi Gymreig yn 1978.
Yn 1991, gwahanodd yr Alarm ar ôl sawl sengl lwyddiannus, y mwyaf adnabyddus oedd 68 Guns. Yn 1996, gwellhaodd wedi iddo ddioddef o gancr lymff, a dechreuodd recordio sain a theithio unwaith eto, weithiau gyda'r grŵp wedi ail-ymuno. Cyflwynodd raglen boblogaidd Bedrock ar BBC Radio Cymru. Ers 1993, mae wedi dal "ymgasgliad" blynyddol yn Llandudno. Yn 2004, daeth Peters yn unfed ar ddeg o 100 o Arwyr Cymru. Yn 2005, darganfu ei fod yn dioddef o liwcemia cronig lymffotig. Mae wedi datgan ei fod erbyn hyn, mewn rhyddhad o'r clefyd, ac wedi ymddangos mewn rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru yn adrodd hanes ei frwydr yn erbyn cancr, sydd ar hyn o bryd yn llwyddiannus.
Yn ddiweddar cymerodd 10 diwrnod i ddringo i wersyll Everest lle mae'n bwriadu chwarae gig. Mae ef eisioes wedi chwarae ar gopa'r Eryri er mwyn codi arian gyfer canolfan cancr yn Nepal.[1] Cyd-sefydlodd y Love, Hope, Strength Foundation sydd wedi helpu trefnu'r daith ar gyfer dioddefwyr cancr a cherddorion.
Dolenni Allanol [golygu]
- Gwefan Swyddogol The Alarm
- Hanes Mike ar wefan newyddion icWales
- Bywgraffiad Mike ar wefan y BBC
- Bywgraffiad Mike ar wefan BBC Cymru
- Archif 'The Gathering'
