Ordoficiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llwythau Cymru tua 48 O.C.. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Roedd yr Ordoficiaid (Lladin: Ordovices) yn un o'r llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru yng nghyfnod y Rhufeiniaid a chyn hynny. Yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru yr oedd tiriogaeth y llwyth yma, ac roeddynt yn rhannu ffîn a'r Silwriaid yn y de-ddwyrain a'r Deceangli yn y gogledd-ddwyrain.

Hanes[golygu]

Safle bryngaer Dinorwig, Gwynedd

Credir fod enw'r llwyth yn dod o'r gair Brythoneg sy'n cyfateb i gordd' yn Gymraeg (cymharer yr Hen Wyddeleg Ord "morthwyl"). Yr oedd y rhan fwyaf o diriogaeth y llwyth yn dir mynyddig, ac mae'n debyg fod eu heconomi yn dibynnu fwy ar gadw gwartheg a defaid na thyfu cynydau. Yr oeddynt yn un o'r llwythi a ymladdodd ffyrnicaf yn erbyn y Rhufeiniad. Am gyfnod cawsant eu harwain gan Caradog (Caratacus), oedd wedi dod i diriogaeth y Silwriaid i arwain y gwrthwynebiad i Rufain wedi i'w lwyth ei hun gael ei orchfygu gan y Rhufeiniaid. Yna symudodd i diriogaeth yr Ordoficiaid, ac mae'n ymddangos iddo gael ei dderbyn fel eu harweinydd mewn rhyfel. Arweiniodd hwy ym Mrwydr Caer Caradog, ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Rhufain dan lywodraethwr Prydain Publius Ostorius Scapula.

Fodd bynnag erbyn dechrau'r 70au yr oedd yr Ordoficiaid yn ymladd yn erbyn Rhufain eto, a llwyddasant i ddinistrio corff o farchogion yn llwyr. Ymosodwyd arnynt gan Gnaeus Julius Agricola yn 77/78 O.C. a'u gorchfygu. Yn ôl yr hanesydd Tacitus, mab-yng-nghyfraith Agricola, lladdodd bron bob copa gwalltog o'r llwyth. Nid yw hynny'n debygol o ystyried natur tiriogaeth y llwyth a'i nifer, ac mae'r cofnod archaeolegol yn awgrymu fod garsiynau wedi eu cadw yn y caerau Rhufeinig yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid am gyfnod hwy nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae hyn yn awgrymu fod yr Ordoficiaid nid yn unig yn parhau mewn bodolaeth ond yn parhau i gael eu hystyried fel perygl posib.

Maen Corbalengus[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Maen Corbalengus

Rhwng Penbryn a Tre-saith yng Ngheredigion, mae carreg o'r 6ed ganrif gyda'r arysgrif CORBALENGI IACIT ORDOVS, neu "[Yma y] gorwedd Corbalengus yr Ordoficiad". Mae'n debyg felly fod Corbalengus wedi ymfudo yma o'r gogledd.

Cof[golygu]

Cadwyd enw'r llwyth yn yr enw Dinorwig ("Bryngaer yr Ordoficiaid") yng ngogledd Cymru. Mae'r cyfnod Ordoficaidd mewn daeareg hefyd yn cymeryd ei enw o'r llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod hwn gael eu disgrifio am y tro cyntaf yn eu hen diriogaeth hwy.

Cyfeiriadau[golygu]


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid