Ostorius Scapula

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Publius Ostorius Scapula (bu farw 52) yn weinyddwr a chadfridog Rhufeinig fu'n llywodraethwr Prydain o 47 hyd ei farwolaeth. Ef fu'n gyfrifol am orchfygu Caradog a'i gymeryd yn garcharor.

Credir bod Publius Ostorius Scapula yn fab Quintus Ostorius Scapula, cyd-bennaeth cyntaf Gard y Praetoriwm a apwyntiwyd gan yr ymerawdwr Augustus ac yn ddiweddarach llywodraethwr Yr Aifft.

Nid oes gwybodaeth am ei yrfa gynnar ond yng ngaeaf 47 apwyntiwyd ef yn ail lywodraethwr Prydain gan yr ymerawdwr Claudius, i gymeryd lle Aulus Plautius. Yr oedd de-ddwyrain yr ynys eisoes wedi ei choncro, ond ymosododd rhai o'r llwythau ar ffiniau'r dalaith Rufeinig, gan gredu na fyddai'r llywodraethwr newydd yn barod i arwain ymgyrch mor hwyr yn y flwyddyn.

Ymosododd Ostorius ar yr Iceni, oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n Norfolk heddiw, oedd wedi bod mewn cynghrair a'r Rhufeiniaid ond yna wedi gwrthryfela. Gorchfygwyd yr Iceni, ond ni ymgorfforwyd eu tiriogaeth yn y dalaith Rufeinig yr adeg yma.

Wedi concro'r llwythau oedd wedi codi mewn gwrthryfel, dechreuodd Ostorius ymgyrchu tu hwnt i ffiniau'r dalaith. Ymosododd ar y Deceangli yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn 48, ond bu raid iddo ddychwelyd tua'r dwyrain pan fu gwrthryfel ymysg y Brigantes.

Wedi i'w lwyth ef ei hun, y Catuvellauni, gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid yr oedd Caradog wedi symud i diriogaeth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, ac wedi ei dderbyn fel eu harweinydd mewn rhyfel. Dan bwysau gan y Rhufeiniaid, aeth Caradog tua'r gogledd i diriogaeth yr Ordoficiaid, ond yn 51 gorchfygwyd ef gan Ostorius mewn brwydr, efallai ar lannau Afon Hafren.

Parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid, a dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymeryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.

Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn 52 heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth gallasant orchfygu lleng oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens cyn i'r llywodraethwr newydd, Aulus Didius Gallus, gyrraedd. Dim ond 25 mlynedd yn ddiweddarach, dan Sextus Julius Frontinus, y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.

Euroswydd[golygu]

Mae rhai ysgolheigion yn y gorffennol wedi ceisio uniaethu Ostorius ag Euroswydd, tad Nisien ac Efnysien yn chwedl Branwen ferch Llŷr.