Hen Wyddeleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Hen Wyddeleg yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r iaith Wyddeleg yn ei ffurf gynharaf. Datblygodd Hen Wyddeleg fel cangheniaith o'r Oideleg (Goidelg), yn yr un modd ag y datblygodd yr iaith Gymraeg (a'r Gernyweg) allan o'r Frythoneg (chwaer gangen Gelteg yr Oideleg). Mae'n anodd pennu dyddiad pendant i'w dechreuad, ond erbyn y 5ed a'r 6ed ganrif gwelwn y Wyddeleg yn cael ei hysgrifennu yn yr arysgrifau Ogham sydd ar gael ar feini yn Iwerddon a Chymru. Gelwir yr enghraifftiau cynnar prin yn Wyddeleg Cynnar. Troes Gwyddeleg Cynnar yn Hen Wyddeleg gydag amser. Parhaodd fel Hen Wyddeleg tan ddiwedd y 9fed ganrif pan droes yn raddol yn Wyddeleg Canol.

Yn ogystal â'r meini Ogham, ein prif ffynonellau am yr Hen Wyddeleg yw glosau cynnar (geiriau neu frawddegau yn y Wyddeleg ar ymyl llawysgrifau yn esbonio, cyfieithu neu egluro testun Lladin). Fel mae'n digwydd, mae'r mwyafrif o'r glosau hyn i'w cael mewn llawysgrifau cyfandirol a ysgrifennwyd yng nghanolfannau dysg gorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol Cynnar; mae'r llawysgrifau pwysicaf yn gysylltiedig â mynachlogydd Würzburg, Milan, Turin a St. Gall ac yn brawf o bresenoldeb mynachod ac ysgolheigion o Iwerddon yn y sefydliadau hynny.

Rhai enghreifftiau o Hen Wyddeleg[golygu]

Daw'r enghreifftiau isod o lawysgrifau Lladin gan fynachod Gwyddelig ar y cyfandir. Agorent ffenestr ar ei fywyd yn y sgriptoriwm, wedi blino ar y gwaith copïo:

Uch mo chliab, a nóib-ingen - "Och! fy mrest, O Forwyn Santaidd" (byddai'r copïydd ar ei sefyll yn pwyso ar y ddesg uchel)
Már úar dam - "Dwi'n oer iawn"
Memmbrun naue, droch dub. O ní epur na haill - "Memrwn newydd, inc gwael. O! ni ddywedaf ragor!"

Llyfryddiaeth[golygu]

  • G. Melville Richards, Llawlyfr Hen Wyddeleg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.