Morgan Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfr y Tri Aderyn yw gwaith enwocaf Morgan Llwyd

Bardd, llenor rhyddiaith a chyfrinydd oedd Morgan Llwyd (16193 Mehefin 1659), a gafodd ei eni yng Nghynfal-fawr (hen blasdy gwledig, filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), i'r un teulu â'r bardd Huw Llwyd. Fe'i gelwir weithiau Morgan Llwyd o Wynedd. Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg ac ysgrifenodd ambell destun Saesneg yn ogystal. Roedd yn Biwritan argyhoeddedig a digyfaddawd ond ni pherthyn iddo'r culni meddwl a gysylltir â'r mudiad crefyddol hwnnw. Enwir Ysgol Morgan Llwyd, ysgol gyfrwng Gymraeg Wrecsam a'r cylch, ar ei ôl. Enillodd Crwys Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1919 am ei awdl 'Morgan Llwyd o Wynedd'.

Hanes[golygu]

Ganed Morgan Llwyd yng Nghynfal yn Ardudwy yn 1619 a chafodd fagwraeth nodweddiadol o deuluoedd mân uchelwyr Meirionnydd yn y cyfnod hwnnw, teuluoedd a ymdrwythid yn y traddodiad llenyddol Cymraeg a gwerthoedd crefyddol a chymdeithasol yr uchelwyr Cymreig. Roedd ei ewythr Huw Llwyd yn fardd medrus a diau fod Morgan Llwyd yn gyfarwydd â gwaith Beirdd yr Uchelwyr. Mae'n debyg mae yn Wrecsam y cafodd ei addysg ffurfiol, pan oedd y Piwritan Walter Cradock yn gurad yno, a bu Cradock yn athro crefydd i Forgan Llwyd am weddill ei oes.

Crwydrodd Morgan Llwyd gryn dipyn wedyn, a chawn ei fod yn Llanfair Waterdine yn Swydd Amwythig ac yna yn Llanfaches yn y de. Pan dorrodd Rhyfel Cartref Lloegr allan yn 1642 ffoes rhag erledigaeth i Fryste ac wedyn i Hampshire. Daeth yn gaplan gyda byddin y Senedd yn y Rhyfel Cartref a diau iddo grwydro lawer gyda'r milwyr. Erbyn 1647 roedd yn ôl yn Wrecsam, crud Anghydffurfiaeth gogledd Cymru, ac fe'i apwyntiwyd yn weinidog ar yr eglwys anghydffurfiol yno.

Bu'n un o'r comisiynwyr a apwyntiwyd gan Oliver Cromwell i chwilio cyflwr crefydd yng Nghymru dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650), gyda Walter Cradock, Vavasor Powell. Oliver Thomas, Jenkin Jones, John Miles ac eraill. Ond pan gyhoeddodd Cromwell ei hun yn Arglwydd Amddiffynydd a dechrau ymddwyn fel unben, bu Morgan Llwyd ymhlith y bobl ddewr a'i wrthwynebodd. Cysylltid ei enw â Phlaid y Bumed Frenhiniaeth a gredai fod y Milflwydd ar fin gwawrio (1666 fyddai'r flwyddyn dynghedfennol) a bod ail-deyrnasiad Crist yn neshau, ond ni wyddys i ba raddau y bu'n rhan o waith yr enwad honno. Bu ganddo gydymdeimlad amlwg â'r Crynwyr hefyd, ac fel hwy gwrthwynebai drais fel egwyddor ffydd. Mae'r manylion am ei flynyddoedd olaf yn ansicr. Bu farw yn ddeugain oed ar 3 Mehefin, 1659.

Mewn pennill enwog yn y gerdd 'Hanes Rhyw Gymro' mae Morgan Llwyd yn crynhoi hanes ei fywyd (priodas ysbrydol a geir yn y llinell olaf):

Ym Meirionydd gynt im ganwyd,
Yn Sir Ddinbych im newidiwyd,
Yn Sir y Mwythig mi wasnaethais,
Yn Sir Fonwy mi briodais.

Llenor a chyfrinydd[golygu]

Morgan Llwyd yw un o lenorion mwyaf yr 17eg ganrif yng Nghymru. Yn wahanol i'w gyd-Biwritaniaid fel Vavasor Powell, ysgrifennai yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Ei waith mwyaf adnabyddus heddiw yw Llyfr y Tri Aderyn. Gwelir dylanwad amlwg y cyfrinydd o Almaenwr Jacob Boehme (Jakob Böhme) ar ei waith, ond nid yw Llwyd yn efelychydd slafaidd o waith yr awdur hwnnw; ceir llawer o wreiddioldeb yn ei syniadau a'i arddull ac mae naws cyfriniaeth y Cymro twymgalon yn llawer mwy dwys a phersonol.

Gweithiau Morgan Llwyd[golygu]

Cymraeg[golygu]

Saesneg[golygu]

  • An Honest Discourse between Three Neighbours (1655)
  • Lazarus and his Sisters Discoursing of Paradise (1655)
  • Where is Christ? (1655)

Llyfryddiaeth[golygu]

Testunau[golygu]

  • J.H. Davies a T.E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd (Bangor, 1899, 1908)
  • P.J. Donovan (gol.), Ysgrifeniadau Byrion Morgan Llwyd (Caerdydd, 1985)
  • M. Wynn Thomas (gol.), Llyfr y Tri Aderyn (Caerdydd, 1988)

Astudiaethau[golygu]

  • Hugh Bevan, Morgan Llwyd y Llenor (Caerdydd, 1954)
  • John W. Jones (gol.), Coffa Morgan Llwyd (Gwasg Gomer, 1952). Casgliad o ysgrifau gan sawl llenor a hanesydd.
  • M. Wynn Thomas, Morgan Llwyd (Caerdydd, 1984). Cyfres Writers of Wales.
  • M. Wynn Thomas, Morgan Llywd: ei gyfeillion a'i gyfnod (Caerdydd, 1991)

Gweler hefyd[golygu]