Plaid y Bumed Frenhiniaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp neu "blaid" o grefyddwyr Piwritanaidd yng nghyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr a gredai fod y Milflwydd ar wawrio ac y byddai Crist yn dychwelyd i deyrnasu ar y ddaear oedd Plaid y Bumed Frenhiniaeth neu'r Pumed Frenhinwyr. Nid oedd yn blaid wleidyddol yn yr ystyr arferol, er bod ei aelodau'n ymwneud â gwleiddyddiaeth y dydd. Bu'r Pumed Frenhinwyr yn ddylanwadol iawn yn Lloegr yn y cyfnod 1645-1649, ond prin fu eu dylanwad yng Nghymru. Dangosodd y cyfrinydd a llenor o Gymro Morgan Llwyd gryn gydymdeimlad ag amcanion y blaid, ond ni wyddys i ba raddau y cymerodd ran yn ei gwaith.

Tynnai'r Pumed Frenhinwyr eu hysbrydoliaeth a'u credo o lenyddiaeth apocolyptaidd y Beibl, ac yn enwedi o lyfrau Daniel a'r Datguddiad. Credent fod hanes y byd yn ymrannu'n bum cyfnod yn ôl goruchafiaeth pum teyrnas, sef Asyria, Ymerodraeth Persia, Groeg a'r Ymerodraeth Rufeinig: Teyrnas Crist ar y Ddaear fyddai'r bumed a'r olaf. Credent y byddai'n dechrau yn y flwyddyn 1666 (666 yw Rhif y Bwystfil yn Llyfr y Datguddiad).

Cyfeiria Morgan Llwyd at y blaid fel hyn:

Mae dynion gwych, hiliogaeth yr hen Iacob, yn barod i gyfodi allan o'r pridd... Y cyfiawn a gred, ac a gaiff weled â'i lygaid y brenin Iesu yn ei degwch; a'r delwau a gwympant o'i flaen, a'r teyrnasoedd a blygant i'r Bumed Frenhiniaeth, fel meibion Israel i Ioseff, megis y dywed yr Ysgrythur yn helaeth. Mae hyn yn agos, wrth y drws: ie, ac yn oes gŵt fe'i gwelir. Mae y droell yn troi yn rhyfedd trwy'r holl fyd yn barod; ac a dry eto yn gyflymach ac yn rhyfeddach beunydd.[1]

Credent fod 'Rhufain' yn cael ei chynrychioli gan y Babyddiaeth a grym yr Eglwys Gatholig. Cyfeirir yn Llyfr y Datguddiad at "Y Bwystfil", a'r brenin Siarl I o Loegr oedd hwnnw, gwrthwynebydd dieflig Teyrnas Crist; byddai Crist yn ddod yn frenin newydd tragwyddol yn ei le. Yn fuan cafodd y Pumed Brenhinwyr eu tynnu i mewn i wleidyddiaeth yr oes. Galwodd rhai ohonynt am ddienyddio'r brenin a defnyddio grym y gyfraith a nerth arfau i baratoi'r ffordd ar gyfer yr ail-ddyfodiad. Pan gymerodd Oliver Cromwell awenau'r llywodraeth iddo ei hun fel Arglwydd Amddiffynydd troes nifer o'r Pumed Frenhinwyr yn ei erbyn. Pan adferwyd y frenhiniaeth dioddefodd nifer ohonynt erledigaeth a chafodd rhai eu dienyddio am deyrnfradwriaeth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dyfynwyd gan D. Tecwyn Evans, 'Morgan Llwyd y Proffwyd a'r Piwritan', yn Coffa Morgan Llwyd (Gwasg Gomer, 1952).