Llanfair Waterdine
Pentref bychan yn Swydd Amwythig yw Llanfair Waterdine (Cymraeg: Llanfair Dyffryn Tefeidiad). Gorwedd ar ymyl Fforest Clun tua chwarter milltir o'r ffin â Cymru. Yn hanesyddol bu'n rhan o Gymru am gyfnod hir ac mae'n gorwedd i'r gorllewin o Glawdd Offa. Yn ogystal mae afon Tefeidiad (Teme), sy'n dynodi'r ffin, wedi newid ei chwrs ers cyfnod y Deddfau Uno (1536). Mae gan y pentref boblogaeth o tua 200.
Gorwedd y pentref ar y B4355 2 filltir i'r gogledd-orllewin o Tref-y-clawdd a nepell o bentref Cnwclas dros y ffin yng Nghymru.
Ceir sawl cysylltiad Cymreig. Brodor o Lanfair Waterdine oedd Hywel Ap Mathew (m. 1581), un o Feirdd yr Uchelwyr a raddiodd yn Eisteddfod Gyntaf Caerwys (1523). Bu'r cyfrinydd a llenor Morgan Llwyd yn weithgar yno ar ddiwedd y 1630au gyda Walter Cradock.
Gweler hefyd [golygu]
Anchor · Amwythig · Argoed · Betws-y-Crwyn · Brŵm · Caerwrygion · Cefn Einion · Church Stretton · Clun · Cockshutt · Craven Arms · Croesau Bach · Croesoswallt · Donnington · English Frankton · Llanfair Waterdine · Llanfarthin · Llanffynhonwen · Llanyblodwel · Llawnt · Llwydlo · Llynclys · Melverley · Morda · Nant-y-Gollen · Nantmawr · Newport · Porth-y-waen · Rhydycroesau · Selattyn · Snailbeach · Telford · Treflach · Trefonen · Uppington · Wellington · Welshampton · Welsh Frankton · Yr Eglwys Wen