Llythur ir Cymru cariadus

Oddi ar Wicipedia
Llythur ir Cymru cariadus


Anerchiad i'w gydwladwyr gan y llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd (Morgan Llwyd o Wynedd, 1619 - 1659) yw Llythur ir Cymru cariadus (Cymraeg Diweddar: "Llythyr i'r Cymry cariadus"). Fe'i cyhoeddwyd yn 1653 yn ôl pob tebyg (ceir peth ansicrwydd am y dyddiad), naill ai yn Llundain neu yn Nulyn, yn yr un flwyddyn a'i lyfr mwyaf adnabyddus, Llyfr y Tri Aderyn.

Neges yn annog y Cymry i ddeffro yn ysbrydol yw'r llythyr. Er ei fod yn llyfr byr fe'i ystyrir yn un o gampweithiau Morgan Llwyd ac yn enghraifft ddisglair o ryddiaith Gymraeg naturiol a rhywiog. Dyma enghraifft enwog, sy'n crynhoi cyfriniaeth Morgan Llwyd:

Oferedd iw printio llawer o lyfrau, Blinder iw cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus iw dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus iw croesafu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb iw ceisio atteb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.

Llawer sydd yn ymwthio, ychydig yn mynd i'r bywyd, llawer yn breuddwydio, ag ychydig yn deffro, llawer yn saethu ag ychydig yn cyrhaeddyd y nôd, Pawb yn sôn am Dduw ag yn edrych ar waith ei ddwylaw, Ond heb weled nesed yw fo ei hunan attynt yn rhoi anadl i bawb a bywyd ysbrydol i ni.

Dyma'r llyfr cyntaf gan Morgan Llwyd i gael ei gyhoeddi (os derbynnir y dyddiad). Mae'n llyfr hynod o brin ac mae'n annhebygol fod llawer o gopïau wedi cylchredeg yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Daw'r dyfyniadau o olygiad Thomas E. Ellis yn y gyfrol:

  • T. E. Ellis (gol.), Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd, Cyfrol 2 (Jarvis & Foster ar ran Prifysgol Cymru, Bangor, 1899).