Huw Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pulpud Huw Llwyd

Bardd yn y Gymraeg a milwr oedd Huw Llwyd (1568? - 1630?), a aned yng Nghynfal-fawr (filltir i'r de o Ffestiniog) ym mhlwyf Maentwrog yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw), gogledd Cymru. Roedd Huw yn perthyn i'r un teulu â'r llenor a chyfrinydd Morgan Llwyd.

Bywgraffiad[golygu]

Fel milwr bonheddig gwasanaethai dan Syr Roger Williams yn Ffrainc a'r Iseldiroedd ym myddin yr Iseldirwyr a oedd yn ymladd i ennill rhyddid i'w gwlad oddi ar Sbaen.

Fel bardd canai ar ei fwyd ei hun yn hytrach na fel bardd proffesiynol. Ymhlith ei hoff bynciau oedd dewiniaeth a helwriaeth. Tyfodd i fod yn cymeriad llên gwerin a gysylltid â dewiniaeth. Gelwir craig fawr ger Afon Cynfal yn Bwlpud Huw Llwyd; dywedir ei fod yn mynd yno i synfyfyrio ac i gonsurio ac o'r herwydd tybiai pobl ei fod yn Ddyn Hysbys.

Cerddi[golygu]

Ei gerdd fwyaf adnabyddus efallai yw 'Cyngor y Llwynog'. Ymddiddan cellweirus rhwng y bardd a llwynog ydyw, gyda'r llwynog yn cynnig cyngor iddo ar sut i lwyddo yn y byd drwy ddichell.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen), cerdd 119.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.