Ysgol Morgan Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgol gyfun Gymraeg sy'n gwasanaethu tref Wrecsam a'r cylch yw Ysgol Morgan Llwyd. Hon yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Fe'i henwir ar ôl y llenor Piwritanaidd Morgan Llwyd. Agorodd Ysgol Morgan Llwyd ym mis Medi 1963 a lleolwyd hi mewn ystafelloedd dosbarth gwag yn hen Ysgol Fodern Victoria. Symudodd i hen safle Gwersyll Maes-y-Meudwy yn Hightown ym mis Gorffennaf 1964, a chafwyd adeilad newydd yn 1975. Daeth yr ysgol yn boblogaidd a tyfodd y nifer o ddisgyblion yn sydyn. Canfwyd safle newydd yn yr 1990au ar ffurf hen goleg hyfforddi athrawon, Cartrefle, Cefn Road. Agorwyd y safle newydd yn swyddogol yn 2000, gyda chost o £8.5 miliwn a symudodd Ysgol St. Christopher i hen safle Ysgol Morgan Llwyd.[1]

Cynnwys

[golygu] Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol

Mae'r rhanfwyaf o'r disgyblion o'r ysgolion Cymraeg isod yn mynychu Ysgol Morgan Llwyd. Daw ychydig o ddisgyblion yn ogystal o ysgolion cynradd Saesneg cyfagos.

[golygu] Cyn-ddisgyblion o nôd

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni allanol

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill