Afon Cynfal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Cynfal: Ceunant Cynfal.

Afon fynyddig ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw Afon Cynfal. Mae hi'n dwyn cysylltiad â sawl traddodiad llên gwerin. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r Migneint i ymuno ag Afon Dwyryd. Ei hyd yw tua wyth milltir.

Cwrs[golygu]

Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir corsiog uchel agored rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o Lyn Conwy yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filltir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan bont fach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'i tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger Llyn y Dywarchen.[1]

Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn llifo trwy Geunant Cynfal, ceunant ddwfn lle ceir Rhaeadr-y-cwm; llecyn deniadol yw hyn a chyrchfa poblogaidd. Llifa'r afon yn ei blaen rhwng bryniau coediog i lawr i Bont Newydd lle mae priffordd yr A470 yn ei chroesi. Filltir yn is i lawr mae Rhaeadr Cynfal. Yno y ceir Pwlpud Huw Llwyd a gysylltir â'r bardd-ddewin enwog hwnnw. Dywedir ei fod yn mynd yno liw nos i fyfyrio ac i gonsurio ysbrydion. Mae'r Pwlpud tafliad carreg o hen blasdy Cynfal-fawr lle ganwyd Huw Llwyd a'i berthynas Morgan Llwyd o Wynedd, y cyfrinydd a llenor. Llifa'r afon yn ei blaen i ddisgyn yn syrth trwy'r Gellidywyll goediog ac aberu yn Afon Dwyryd ger Pont Tal-y-bont, sy'n cludo'r A496 i Flaenau Ffestiniog.[2]

Llech Gronw[golygu]

'Llech Gronw' ar lan afon Cynfal.

Llecyn arbennig ar lan Afon Cynfal yw Llech Gronw neu Llech Ronwy. Hen faen hir â thwll yn ei ganol ydy o, sy'n gorwedd ar ei wastad bellach ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y Bont Newydd. Yn ôl traddodiad dyma'r maen a roddodd Gronw Pebr (neu Gronwy Pefr), un o arwyr y Mabinogi, rhyngddo a gwaywffon Lleu Llaw Gyffes. Roedd yn gariad i Flodeuwedd a mynnodd Lleu Llaw Gyffes ddial arno am gysgu â'i arglwyddes a dwyn ei arglwyddiaeth oddi arno. Taflodd waywffon ato ac mi aeth drwy'r garreg a Gronw hefyd, gan ei adael yn gelain. Ceir yr hanes yn y Bedwaredd Gainc (Math fab Mathonwy). Ar ddiwedd yr adran honno o'r chwedl mae'n dweud:

Ac yna y llas (lladdwyd) Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.

Hefyd yn yr ardal mae Bryn Cyfergyr (Bryn Cyfergyd heddiw), y cyfeirir ato yn y Bedwaredd Gainc.

Darllen pellach[golygu]

Ceir rhagor am Lech Gronwy a'r chwedl yn nodiadau golygiad Ifor Williams o'r Pedair Cainc (Caerdydd, 1930 ac argraffiadau diweddarach).

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.

Gweler hefyd[golygu]