Cors

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llystyfiant nodweddiadol o gors, yn Sumava, Gweriniaeth Tsiec.

Tir gwlyb parhaol yw cors. Yn aml mae llyn yn troi'n gors yn nhreigl amser, ac yn nes ymlaen mae'r gors yn troi'n dir sych.

Gellir cael nifer o wahanol fathau, yn dibynnu ar natur y graig a'r pridd yn yr ardal. Lle mae'n asidig, cysylltir y gors fel rheol a mawn; dyma'r math mwyaf cyffredin ar gors yng Nghymru.

Gellir rhannu'r corsydd hyn yn gorsydd yr iseldir a chorsydd yr ucheldir. Mae corsydd yr iseldir yn fawnogydd sydd wedi datblygu mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen. Defnyddir y term cyforgors am y rhain; esiamplau yw Cors Fochno a Chors Caron.

Gall corsydd yr ucheldir ffurfio dros ardaloedd eang lle mae llawer o law yn disgyn. Ceir enghreifftiau o'r math yma o gors ar y Migneint.

Gall corsydd fod o bwysigrwydd mawr ar gyfer bywyd gwyllt, ac mae llawer ohonynt ledled y byd wedi eu dynodi fel gwarchodfeydd.

Mathau o gors[golygu]

Dôl[golygu]

Gwlypdir cymharol sych yw dôl, a geir ger afon[1]. Mae'r gair yn perthyn i'r gair dolen, gan gyfeirio at droadau mewn afonydd.

Cors[golygu]

Yn wreiddiol, cyfeiria'r gair yn benodol at le lle dyf cyrs, tebyg i'r fen Saesneg.

Gwern[golygu]

Cyfeiria gwern i'r goeden â'r un enw.

Mawnog[golygu]

Cors lle'r oedd mawn yn cael ei dorri yw mawnog neu geulan.

Gwaun[golygu]

Gall y gair gwaun gyfeirio at wastatir uchel brwynog, neu at tir isel gwlyb.

Siglen[golygu]

Cors eithriadol wlyb yw siglen neu donnen (Almaeneg: Schwingmoor).

Corsydd yng Nghymru[golygu]

Y corsydd mwyaf adnabyddus yw:

Ffynonellau[golygu]

  1. Tro ar fyd (colofn Duncan Brown); t.9; Y Cymro, Ionawr 5, 2007
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cors
yn Wiciadur.