Llyn Idwal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Idwal o'r Garn

Mae Llyn Idwal yn llyn bychan gydag arwynebedd o 28 erw (tua 800 medr wrth 300 m) ynghanol Cwm Idwal yn y Glyderau yng ngogledd Cymru. Mae'r llyn ei hun yng Ngwynedd, ond mae'r ffin â sir Conwy yn dilyn glan ddwyreiniol y llyn. O gwmpas y llyn mae nifer o fynyddoedd, yn enwedig y Glyder Fawr ac Y Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.

Tarddiad yr enw [golygu]

Yn ôl traddodiad, rhoddodd Tywysog Gwynedd, Owain Gwynedd un o'i feibion, o'r enw Idwal, yng ngofal gŵr o'r enw Nefydd Hardd. Roedd mab Nefydd ei hun, Dunawd, yn genfigennus o Idwal, ac un diwrnod gwthiodd ef i'r llyn a'i foddi.

Cafodd hostel ieuenctid yn yr ardal ei henwi Idwal Cottage.

Cysylltiadau allanol [golygu]

Llwybr Cwm Idwal, o safle we Parc Cenedlaethol Eryri

Llyn Idwal, gyda'r Glyder Fawr tu ôl iddo.