Penrhyn Gŵyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bae'r Tri Chlogwyn
Gweler hefyd Gŵyr a Penrhyn (gwahaniaethu).

Mae Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol rhwng Bae Abertawe a Bae Caerfyrddin, ym Morgannwg, Cymru. Gan fod y creigiau o gerrig calch mae nifer o gilfachau ac ogofeydd yno. Yma mae Ogof Paviland, lle darganfuwyd sgerbwd dyn o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ardal penrhyn Gŵyr roedd teyrnas Gŵyr yn blodeuo am gyfnod byr yn yr Oesoedd Canol Cynnar.

Bu i Ffleminiaid a Saeson ymsefydlu ar rhannau deheuol y penrhyn yn y ddeuddegfed ganrif yn sgîl goresgyn iseldiroedd arfordir de Cymru gan y Normaniaid, ac, fel canlyniad, Saesneg ydyw prif iaith yr ardal hon ers canrifoedd. Arhosodd pentrefi gogledd-ddwyrain y penrhyn yn llefydd Cymraeg eu hiaith hyd ail hanner yr ugeinfed ganrif a chlywir gwahaniaeth amlwg yn acenion a ffordd o siarad y ddwy ardal hyd heddiw.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Gŵyr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn ei lys yn Ynysforgan ar benrhyn Gŵyr trigai Hopcyn ap Tomas (tua 1337-1408), noddwr beirdd a chasglwr llawysgrifau, a gysylltir â Llyfr Coch Hergest.

Mae Penclawdd sydd ar yr arfordir gogleddol yn enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth yno.

Heddiw mae Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid dros fisoedd yr haf. Erys amaethyddiaeth yn bwysig iawn yn yr economi lleol ond gwelir llawer o bobl yn ymddeol o ardaloedd eraill Cymru a Lloegr i fyw ym mhentrefi Gŵyr, ac felly yn codi pris tai allan o afael y brodorion.

Pentrefi Gŵyr[golygu]

Ceir cymysgfa o enwau Cymraeg a Saesneg ar bentrefi'r penrhyn, sy'n ddrych i'w hanes. Ceir rhai pentrefi gydag enwau Cymraeg yn unig, eraill gydag enwau yn y ddwy iaith, ac eraill ag enwau Saesneg yn unig.