Glyderau
Gwedd
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy, Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,000.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.1008°N 4.0297°W |
Grŵp o fynyddoedd yn Eryri yw'r Glyderau. Cyfeiria yn enwedig at ddau fynydd ucha'r grŵp, Glyder Fawr (999m) a Glyder Fach (994m). Maent yn ymestyn o Fynydd Llandygái yn y Gogledd-orllewin i Gapel Curig yn y De-ddwyrain. Dyma nhw yn y drefn honno (Gorllewin i'r dwyrain):
- Elidir Fawr (924 m)
- Carnedd y Filiast (821 m)
- Mynydd Perfedd (812 m)
- Foel Goch (831 m)
- Y Garn (947 m)
- Glyder Fawr (999 m)
- Glyder Fach (994 m)
- Tryfan (915 m)
- Foel Goch (805 m)