Foel Goch (Glyderau)
| Foel-goch (Y Glyderau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | |
| Uchder (m) | 831 |
| Uchder (tr) | 2726 |
| Amlygrwydd (m) | 76 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH628612 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Mae Foel Goch yn fynydd yn y Glyderau yn Eryri, cyfeiriad grid SH628612. Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd o gopa Y Garn, ar hyd ochr orllewinol Nant Ffrancon, yn cael ei wahanu oddi wrth Y Garn gan Fwlch y Cywion. Ymhellach i'r gogledd ar hyd y grib mae Mynydd Perfedd a Carnedd y Filiast. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 755 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Gellir ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Foel Goch.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 831 metr (2726 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'