Cigfran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cigfran
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Corvus
Rhywogaeth: C. corax
Enw deuenwol
Corvus corax
Linnaeus, 1758
Map dosbarthiad

Mae'r Gigfran yn un o'r aelodau mwyaf o deulu'r brain. Mae rhwng 60 a 78 cm o hyd a rhwng 120 a 156 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu i gyd yn ddu. Gellir gwahaniaethu'r Gigfran oddi wrth aelodau eraill o deulu'r brain sydd hefyd i gyd yn ddu, megis y Frân Dyddyn trwy fod y pig yn arbennig o fawr, fod plu hir ar y gwddf (gweler y llun) a bod plu canol y gynffon yn hirach na'r plu ar yr ochrau, gan roi ffurf diamwnd i'r gynffon. Mae yr alwad hefyd yn wahanol, rhywbeth fel "prrwwnc" neu "cronc".

Mae gan y Gigfran ddosbarthiad helaeth iawn mewn nifer o rannau o'r byd, ac yn ymestyn or'r Arctic i anialwch y Sahara. Nid yw'r adar ieuanc yn dechrau nythu tan maent tua tair oed. Cyn hynny maent yn ffurfio heidiau gyda Chigfrain eraill. Pan mae'n paru, mae'n paru am oes.

Maent yn nythu mewn coed neu ar glogwyni yn y mynyddoedd neu ger y môr. Gallant nythu yn gynnar iawn yn y flwyddyn pan mae'r tywydd yn dal yn oer iawn, er enghraifft mae rhai Cigfrain yn Eryri ar y nyth erbyn diwedd Chwefror. Gall fwyta amrywiaeth mawr o fwyd ond yn enwedig anifeiliaid wedi marw. Mae'r pig mawr fel cŷn yn eu galluogi i dorri trwy wlan a chroen dafad wedi marw er enghraifft.

Ystyrir y Gigfran un o'r callaf o'r holl adar. Er enghraifft, wrth dynnu lluniau o nyth o guddfan, weithiau mae'n amhosibl mynd i'r guddfan heb i'r adar weld y ffotograffydd. Yr hyn a wneir fel rheol yw i ddau berson fynd i mewn i'r guddfan ac un yn dod allan, fel bod yr adar yn credu fod pawb wedi mynd. Nid yw hyn yn gweithio gyda'r Gigfran - mae'n rhaid cael hyd at naw person yn mynd i mewn i'r guddfan ac wyth yn dod allan cyn y medrir twyllo'r Gigfran. Maent hefyd yn un o'r ychydig adar sy'n chwarae; ambell dro gellir eu gweld yn sglefrio i lawr llethrau ag eira arnynt, dim ond am yr hwyl.

Cigfrain ar arfbais Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth
Corvus corax

Mae Cymru yn un o gadarnleoedd y Gigfran. Yng Nghoedwig Niwbwrch ar Ynys Môn gellir gweld nifer fawr o Gigfrain yn hedfan i mewn i glwydo ar ddiwedd y dydd. Yn ystod rhai gaeafau cyfrifwyd dros 1,000 o Gigfrain yma, sy'n ei wneud y man clwydo ail-fwyaf yn y byd. Ceir poblogaeth sylweddol iawn yn nythu ym mynyddoedd Eryri.

Efallai oherwydd eu bod yn aml i'w gweld yn bwyta cyrff y lladdedigion ar ôl brwydr, yr oedd cigfrain yn boblogaidd ar arfbeisiau a baneri yn y Canol Oesoedd,