Moelwyn Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Moelwyn Mawr
Y Moelwynion
Moelwyn Mawr ar y chwith, Moelwyn Bach ar y dde, o Bont Croesor
Llun Moelwyn Mawr ar y chwith, Moelwyn Bach ar y dde, o Bont Croesor
Uchder 770m / 2,526 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru


Mae'r Moelwyn Mawr yn fynydd yn Eryri, Gwynedd. Saif Croesor i'r gorllewin iddo a Thanygrisiau i'r dwyrain. Mae'r Moelwyn Bach gerllaw iddo, fymryn i'r de, a chefnen Craigysgafn yn eu gwahanu. Rhwng y ddau Foelwyn mae Llyn Stwlan. I'r gogledd-orllewin, yr ochr arall i Gwm Croesor, mae Cnicht.

Gellir ei ddringo o Groesor, gan anelu am Bont Maesgwm ac yna am gefnen Braich y Parc. Wedi cyrraedd y copa mae'n fater gweddol hawdd mynd ymlaen dros Graigysgafn i gopa'r Moelwyn Bach hefyd.