Llyn Stwlan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Stwlan

Cronfa ddŵr gerllaw pentref Tanygrisiau yn ardal Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd yw Llyn Stwlan. Saif y llyn yn y bwlch rhwng copaon y Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach, 1,570 troedfedd uwch lefel y môr.

Yn wreiddiol roedd Llyn Stwlan yn llyn naturiol bychan. Adeiladwyd yr argae i ffurfio'r llyn presennol fel rhan o gynllun cynhyrchu trydan dŵr Tanygrisiau yn niwedd y 1950au, a agorwyd yn swyddogol yn 1961. Mae gan y llyn yn awr arwynebedd o 22 acer. Mae'r orsaf bwer yma yn defnyddio trydan ar adegau pan nad oes cymaint o alw amdano i bwmpio dŵr o Lyn Tanygrisiau islaw i fyny i Lyn Stwlan. Pan fo mwy o alw am drydan, mae'r dŵr yn cael ei ollwng yn ôl i lawr i gynhyrchu trydan. Oherwydd hyn mae lefel y llyn yn amrywio yn fawr.

Mae Afon Stwlan yn llifo allan o'r llyn ac yn llifo i mewn i Lyn Tanygrisiau.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Roberts, The lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1995). ISBN 0-863811-338-0