Pen yr Ole Wen
| Pen yr Ole Wen (Y Carneddau) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Pen yr Ole Wen o'r de. |
| Uchder (m) | 978 |
| Uchder (tr) | 3209 |
| Amlygrwydd (m) | 45 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH655619 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Hewitt a Nuttall |
Mae Pen yr Ole Wen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy yn mynd tros y copa. Pen yr Ole Wen yw'r pellaf i'r de-orllewin o fynyddoedd y Carneddau. Wrth ei droed mae Llyn Ogwen a ffordd yr A5, a'r ochr arall i'r llyn mae mynyddoedd y Glyderau yn dechrau. I'r gogledd-ddwyrain mae'r nesaf o gadwyn y Carneddau, Carnedd Dafydd.
Fel y rhan fwyaf o fynyddoedd y Carneddau, mae'n fynydd mawr, moel. Gellir ei ddringo o ochr gogleddol Llyn Ogwen, gan ddilyn llwybr sy'n cychwyn gerllaw'r fan lle mae Afon Ogwen yn gadael y llyn. Mae'r llwybr yma yn eithriadol o serth, gyda tua 675 medr o dringo mewn tua 1.5 km, graddfa o bron 1 mewn 2 ar gyfartaledd. Dull ychydig yn haws yw cychwyn ger hen ffermdy Tal-y-Llyn Ogwen ger pen dwyreiniol y llyn, a dilyn Afon Lloer i fyny'r llethrau nes daw llyn Ffynnon Lloer i'r golwg. O'r fan hyn mae llwybr yn arwain i'r chwith i fyny'r grib i gopa Pen yr Ole Wen. Gellir hefyd ei ddringo trwy ddringo un o'r copaon eraill yn y Carneddau a cherdded ar hyd y grib.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol [golygu]
| Y pedwar copa ar ddeg |
|---|
|
Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
|
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
|
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |