Gwartheg Duon Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Gwartheg Duon Cymreig: buwch a'i llo ger Penderyn.

Brîd o wartheg Cymreig yw Gwartheg Duon Cymreig a gedwir ar gyfer cynhyrchu llaeth a chig yn bennaf. Fel yr awgryma'r enw, datblygwyd hwy yng Nghymru ac maent bron bob amser yn ddu, er bod ychydig o rai cochion ar gael hefyd. Fel rheol mae ganddynt gyrn, ond mae rhai sy'n naturiol heb gyrn yn ogystal.

Lloi Duon Cymreig a fridiwyd gan Joseph Evans, Tyndomen, Tregaron. Ffotograff gan Geoff Charles (1955).

Un o nodweddion Gwartheg Duon Cymreig yw eu bod yn medru byw ar yr ucheldiroedd ac ar borfa gymharol wael, lle na all y mwyafrif o fridiau o wartheg fyw. Cyfeirid atynt ar un adeg fel "Yr Aur Du".

Hwsmoniaeth[golygu | golygu cod]

Rhwymo[golygu | golygu cod]

Bodorgan 27 Hydref 1959: Gale. Glaw mawr. Cawodydd trymion o'r gogledd Rhwymo'r buchod[1]

Mae’r ‘rhwymo’r buchod’ yn ddifyr. Cyfeirio y mae Ellen Jones at roi’r gwartheg i mewn yn y beudy (wedi eu rhwymo â chadwyn) dros y gaeaf. Byddai hyn yn digwydd o gwmpas Glangaea (ddechrau mis Tachwedd). Tybed a oedd y storm wedi dylanwadu arni i ddod â’r rhwymo ymlaen rhyw chydig, i arbed yr anifeiliaid rhag rhyferthwy’r ddrycin? E’lla byddai edrych ar ddyddiad y rhwymo mewn blynyddoedd eraill yn rhoi’r ateb...?[2]
A dyma wneud:

Rhiw 17 Tachwedd 1931: Diwrnod eto [efo?] rhwymo'r dynewaid [gwartheg deunaw mis oed].[3]
Bodorgan 27 Hydref 1959: Gale. Glaw mawr Cawodydd trymion o'r gogledd Rhwymo'r buchod
Bodorgan 30 Medi 1960: Oer. Llo bach Meg (3pm). Llo bach Peggy (11.30pm). Rhwymo 4 o fuchod[4]

Difyr bod tywydd yn cael ei grybwyll yn y ddau achos ym Modorgan o fewn diwrnod o'i gilydd mewn gwahanol flynyddoedd, a dim son am y tywydd yn y cofnod o Rhiw sy'n dyddio o hwyrach yn y flwyddyn. Mae hyn yn awgrymu mai Glangaea yw'r dyddiad rhwymo gwartheg onibai bod tywydd drwg yn dod â'r dyddiad ymlaen.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn[www.llennatur.cymru]
  2. Twm Elias mewn llythyr
  3. Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw.com
  4. Dyddiadur Ellen Jones, Ty Crwn, Bodorgan, Môn yn www.llennatur.cymru
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.