Coedwig Gwydyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coedwig Gwydyr, yn edrych tua'r Glyderau a'r Carneddau.

Coedwig yn sir Conwy yng ngogledd Cymru yw Coedwig Gwydyr, hefyd Coed Gwydyr, Coedwig Gwydir a Coed Gwydir. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol Eryri, o gwmpas Betws-y-Coed, ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref Trefriw ac i'r de i gyffiniau Penmachno. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.

Llynnoedd[golygu]

Llyn Bodgynydd, Coedwig Gwydry

Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:

Hanes a natur[golygu]

Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am Blwm a sinc yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.

Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y Bele yn dal i fyw yn y goedwig.

Gwydir[golygu]

Ceir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at Ieuan Fardd a ysgrifenwyd yn 1767, mae'r hynafiaethydd Richard Morris ((1703 - 1779), un o Forysiaid Môn, yn dweud "Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o Wedyr ynte Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw etc. etc. Pa un yw'r goreu?".[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Shaw, Donald L. Gwydyr Forest in Snowdonia: a history (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hugh Owen (gol.), Additional Letters of the Morrisses of Anglesey (1735-1786), Cyfrol II (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Llundain, 1949).

Gweler hefyd[golygu]