Dolwyddelan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dolwyddelan
Conwy
CymruConwy.png
Smotyn Coch.gif

Mae Dolwyddelan yn bentref a chymuned yn Sir Conwy, yn Nyffryn Lledr. Mae ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Enwir y pentref ar ôl Sant Gwyddelan, nawddsant y plwyf. Mae'r A470 a Rheilffordd Dyffryn Conwy yn pasio drwy'r pentref.

[golygu] Hanes

Yn ymyl y pentref ar glogwyn isel y mae Castell Dolwyddelan, un o gestyll Tywysogion Gwynedd a man geni Llywelyn Fawr yn ôl traddodiad. Yma hefyd y mae Tanycastell, man geni y pregethwr John Jones, Talysarn. Ychydig yn is i lawr y dyffryn ceir safle caer Rufeinig ym Mryn-y-Gefeiliau. Ar draws y ffordd i'r ffordd fawr ceir Tomen y Castell, sef hen domen o'r Oesoedd Canol.

[golygu] Y Bont Rufeinig

Y Bont Rufeinig, Dolwyddelan

Uwchlaw'r pentref yn rhan uchaf y dyffryn mae hen bont a elwir Y Bont Rufeinig. Dywedir iddi gael ei chodi i gludo'r hen ffordd Rufeinig o Canovium (Caerhun) i Domen y Mur, gwersyll Rhufeinig ger Trawsfynydd. Mae ganddi bensaernïaeth anghyffredin iawn, gyda wyth fwa o gerrig anferth, ond ymddengys ei bod yn perthyn i'r cyfnod modern cynnar yn hytrach na'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r hen ffordd i fyny'r dyffryn i Flaenau Ffestiniog yn ei chroesi.

[golygu] Enwogion


Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill