Y Lliwedd
| Y Lliwedd (Yr Wyddfa) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Y Lliwedd o lwybr Watkin |
| Uchder (m) | 898 |
| Uchder (tr) | 2946 |
| Amlygrwydd (m) | 154 |
| Lleoliad | yn Eryri |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17W |
| Cyfesurynnau OS | SH622533 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mae'r Lliwedd (weithiau Lliwedd) yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Mae ychydig yn is (898m) na chopa'r Wyddfa ei hun. Mae Bwlch y Saethau yn gwahanu'r Lliwedd a'r Wyddfa. Ychydig ymhellach ar hyd y grib o'r Lliwedd mae Lliwedd Bach, yna copa is Gallt y Wenallt, lle mae'r grib yn gorffen. Ar ochr ogledd-ddwyreiniol y mynydd mae clogwyni serth uwchben Glaslyn a Llyn Llydaw. Roedd y clogwyni yma yn arbennig o boblogaidd gyda dringwyr flynyddoedd yn ôl. Ar yr ochr dde-orllewinol mae Cwm Llan, a thu draw iddo Yr Aran. Gellir dringo Lliwedd o Ben y Pas, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cyrraedd y copa yn gwneud hynny fel rhan o Bedol yr Wyddfa, sy'n cynnwys Crib Goch a chopa'r Wyddfa ei hun yn y daith. Gellir hefyd gyrraedd y copa trwy ddilyn llwybr Watkin o Bont Bethania ger Beddgelert ond troi i'r dde cyn dechrau ar y darn olaf o'r llwybr i gopa'r Wyddfa.
Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ar Ynysoedd Prydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'