Oes yr Iâ

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhewlifiant Hemisffer y Gogledd yn ystod yr oesoedd iâ diwethaf.

Cyfnod o oerfel eithriadol yn hanes y ddaear sy'n gallu parhau am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd yw Oes yr Iâ. Yn ystod cyfnod fel hyn mae haen trwchus yn gorchuddio rhannau o'r cyfandiroedd.

Ers tua 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae hinsawdd cymharol oer yn gyffredinol wedi parhau gyda chyfnodau oer a chyfnodau cynnes yn dilyn ei gilydd, am gyfnodau o tua 100,000 o flynyddoedd fel rheol. Cafwyd yr Oes Iâ fwyaf ddiweddar tua 21,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafwyd haen iâ o drwch hyd at 3 km, gyda tua 32% o'r tir o dan iâ (y cyfran heddiw yw tua 10%) a'r dymheredd ar gyfartaledd yn 5 - 6 °C yn is na heddiw. Yn ystod Oesoedd yr Iâ roedd rhewlifau yn gorchuddio y rhan helaeth o Ewrop, gogledd Asia, Gogledd America a Siapan. Am fod yr iâ yn ddwfn iawn, roedd lefelau y môr yn fwy isel na heddiw. Ar ôl Oes yr Iâ roedd lefel y môr yn codi drachefn gan gyrraedd y lefel presennol tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, mae'r tir yn codi ar ôl i bwys yr iâ gael eu cymryd i ffwrdd (e.e. mae'r Alban yn dal i godi 10,000 flynyddoedd ar ôl i'r iâ diweddaraf doddi) (cymhwysiad isostatig).

Mae'r rhewlifau yn creu mynyddoedd trwy gludo tywod a cherrig. Ac oherwydd y dŵr ychwanegol o'r iâ toddedig, mae dyffrynnoedd ac afonydd newydd yn ffurfio.

Mae anifeiliaid nodweddiadol o Oes yr Iâ yn cynnwys mamothau a rhinoserosau gwlanog.

O ganol y 14eg ganrif hyd y 19eg cafwyd cyfnod o oerfel a adnabyddir fel yr Oes Iâ Fach.