Llosgfynydd

Oddi ar Wicipedia
Llosgfynydd
Enghraifft o'r canlynoltirffurf folcanig Edit this on Wikidata
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Deunyddcraig folcanig, magma, lafa, llif lafa, teffra, twff, lludw Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscraig folcanig Edit this on Wikidata
Cynnyrchcarbon deuocsid, craig igneaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llosgfynydd yn Tambora, Indonesia

Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys nwy.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Echdoriadau diweddar[golygu | golygu cod]

Diagram o echdoriad yn Hawaii. 1. Lludw 2. Lafa 3. Ceudwll 4. Pwll lafa 5. Fumaroles 6. Llif y lafa 7. Haenau o lafa a lludw
8. Stratwm 9. Silff 10. Sianel fagma 11. Siambr fagma 12. Deic

Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.

Llosgfynyddoedd y Byd[golygu | golygu cod]

Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:

Llosgfynyddoedd Cymru[golygu | golygu cod]

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato