Caerhun
Pentref bychan a chymuned yn Sir Conwy yw Caerhun, sy'n adnabyddus am safle caer Rufeinig Canovium.
[golygu] Canovium
Saif gweddillion Canovium ar y ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon). Saif ar lan orllewinol Afon Conwy, rhwng Tŷ'n-y-groes a Dolgarrog ar y B5106, a gerllaw man lle gellir rhydio'r afon. Mae'n 24 milltir o Segontium, taith diwrnod i droedfilwyr Rhufeinig.
Nid oes lawer yn weddill o'r gaer, ond gellir gweld olion y muriau allanol. Mae'n dilyn y patrwm Rhufeinig arferol, yn sgwar gyda pob ochr tua 410 troedfedd o hyd. Mae'r eglwys a'r fynwent bresennol yn gorchuddio un gornel o'r gaer. Cafwyd hyd i deilsen gyda'r stamp LEG XX V, ac yn 1801 cafodd Samuel Lysons hyd i faddondy 39 medr o hyd i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer.
Adeiladwyd y gaer tua 75 - 77 O.C., yr un adeg a Segontium. Efallai ei bod wedi ei hadeiladu gan Agricola yn ystod ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid. Pren oedd yr adeiladau ar y cychwyn, a'r mur allanol o glai. Yn yr ail ganrif, ail-adeiladwyd y gaer a cherrig. Credir bod y garsiwn yn Cohors Peditata Quingenaria, tua 500 o filwyr traed. Ymddengys fod y gaer yn parhau i gael ei defnyddio yn y bedwaredd ganrif, oherwydd cafwyd hyd i ddarn arian a delw yr ymerawdwr Gratianus (375-383). Tu allan i'r gaer yr oedd vicus, neu bentref. Heblaw bod ar y ffordd rhwng Deva a Segontium, roedd ffordd Rufeinig arall, Sarn Helen, yn cychwyn yma ac yn arwain tua'r de i Maridunum (Caerfyrddin) gyda changen yn troi am Eryri i gysylltu Caerhun a Bryn-y-Gefeiliau (ger Capel Curig).
Mae traddodiad llên gwerin yn cysylltu'r gaer â Rhun (fl. OC 550) fab Maelgwn Gwynedd.
Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: CN001. [1]
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1
- Willoughby Gardner, "The Roman Fort at Caerhun" (Archaeologia Cambriensis, LXXX rhan 2, 1925)
[golygu] Cyfeiriadau
| Caerau Rhufeinig Cymru | |
|---|---|
| Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis | |
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan