Rhododendron ponticum

Oddi ar Wicipedia
Rhododendron ponticum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Ericaceae
Genws: Rhododendron
Rhywogaeth: R. ponticum
Enw deuenwol
Rhododendron ponticum
L.

Mae Rhododendron ponticum neu'r Rhododendron Cyffredin yn rywogaeth o'r genws Rhododendron sy'n frodor o dde Ewrop a de-orllewin Asia. Yn Ewrop, fe'i ceir yn Sbaen a gogledd Portiwgal, ac yn ne-ddwyrain Bwlgaria, ac yn Asia mewn ardal eang rhwng Twrci, Libanus a Georgia ac ardal Krasnodar yn ne Rwsia.

Mae'n llwyn gweddol o faint, yn tyfu hyd at 5 m. o uchder, weithiau 8 m., gyda blodau porffor. Ceir dau is-rywogaeth:

  • R. p. ponticum - Bwlgaria hyd Georgia.
  • R. p. baeticum Sbaen a Portiwgal.

Cofnoda'r hanesydd Groegaidd Xenophon i filwyr Groegaidd yn Asia Leiaf gael eu gwenwyno gan fêl wedi ei wneud o flodau R. ponticum. Fe'i tyfir yn aml mewn gerddi, weithiau er ei fwyn ei hun ond yn amlach fel stoc ar gyfer rhywogaethau eraill o Rhododendron. Trwy hyn mae wedi datblygu yn broblem mewn rhai rhannau o'r byd tu hwnt i'w gynefin naturiol, er enghraifft Seland Newydd a gorllewin Ucheldiroedd yr Alban, a hefyd yng Nghymru. Fe'i hystyrir yn fygythiad i dyfiant naturiol yn Eryri, lle mae wedi ymledaenu'n fawr mewn rhai ardaloedd, er enghraifft ar y llechweddau o gwmpas Beddgelert.