Ffyrdd Rhufeinig Cymru

Oddi ar Wicipedia
Ffyrdd Rhufeinig Cymru
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Adeiladwyd rhwydwaith o ffyrdd yng Nghymru yn ystod y cyfnod pan oedd y wlad yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig.

Gellir meddwl am y caerau a ffyrdd Rhufeinig yng Nghymru fel bocs hirsgwar yn amgylchynu'r mynyddoedd. Roedd caer bwysig ymhob cornel. Yn y de-ddwyrain ceir caer Isca Silurum (Caerllion ar Wysg), ger Casnewydd heddiw. Hon oedd pencadlys y Rhufeiniaid yn y de. Yn y gogledd-ddwyrain dewiswyd safle ger aber Afon Dyfrdwy ar gyfer Deva (dinas Caer heddiw). Yn y ddwy gaer hyn sefydlwyd pencadlysoedd y llengoedd yng Nghymru, sef y Legio II Adiutrix yn Deva hyd 66 ac yna'r Legio XX Valeria Victrix, a'r Legio II Augusta yn Isca Silurum. Yn y gorllewin roedd caer Segontium (Caernarfon) yn y gogledd a chaer Maridunum (Caerfyrddin) yn y de. Rhwng y caerau yma roedd cyfres o gaerau llai.

Rhan o'r ffordd Rufeinig rhwng Caer a Segontiwm lle mae'n dringo o Gaerhun i gyfeiriad Bwlch-y-Ddeufaen ar ei ffordd i Segontiwm

Yn cysylltu'r caerau hyn a'i gilydd roedd cyfres o ffyrdd. Yn y gogledd roedd y ffordd yn cysylltu Caer a Segontium, oedd yn mynd heibio Canovium (Caerhun). Roedd Sarn Helen yn rhedeg o Canovium yn y gogledd i Gaerfyrddin, gyda fforch yn arwain i gaer Castell Nedd. Yn y de, roedd y ffordd yn cysylltu Caerllion a Chaerfyrddin. Ochr arall y sgwar oedd y ffordd yn cysylltu Caerllion a Chaer, oedd yn mynd trwy Viroconium, er fod y rhan fwyaf o'r ffordd yma tu allan i ororau Cymru.