Mochdre, Conwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mochdre.
Parc Busnes Mochdre.

Pentref a chymuned yw Mochdre sy'n gorwedd i'r gorllewin o Fae Colwyn ac i'r dwyrain o Gyffordd Llandudno ym mwrdeistref sirol Conwy yng ngogledd Cymru. Hyd Ebrill 1974 bu'r pentref yn rhan o Fwrdeistref Ddinesig Bae Colwyn; heddiw mae'n gymuned ar wahân gyda phoblogaeth o 1,862 (Cyfrifiad 2001). Rhed yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru heibio i Fochdre ar ei ymyl ogleddol.

Mabinogi[golygu]

Ceir chwedl onomatig sy'n esbonio tarddiad enw'r pentref yn chwedl Math fab Mathonwy, yn y Mabinogi. Mae Gwydion a chwmni o ryfelwyr Gwynedd yn cyrchu llys Pryderi yn Nyfed ac yn dwyn moch lledrithiol Pryderi. Ar eu taith yn ôl i'r gogledd, a rhyfelwyr Dyfed yn dynn ar eu sodlau, arosant mewn sawl llecyn a enwir yn "Fochdref" neu "Fochnant" byth ar ôl hynny. Yr olaf o'r rhain, cyn croesi afon Conwy i Wynedd, yw safle pentref Mochdre:

Ac oddi yna [Mochnant ym Mhowys] y cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buant y nos honno i mewn y dref a elwir etwa ["o hyd"] Mochdref.[1]

Hanes[golygu]

Mae pentref Mochdre yn rhan o blwyf Llangystennin, ac mae eglwys y plwyf yn adnabyddus fel enghraifft dda o eglwysi Cymreig yr Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad mae'n sefyll ar safle'r eglwys gyntaf i gael ei chodi yng Nghymru.

Erbyn heddiw mae Mochdre yn bentref mawr gyda sawl stad o dai diweddar, ystâd ddiwydiannol sylweddol (Parc Busnes Mochdre), tafarn adnabyddus a siopau lleol. Ers peth amser mae'r pentref yn dioddef problemau cymdeithasol o achos yfed ar y stryd gan bobl ifanc a fandaliaeth.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mochdre, Conwy (pob oed) (1,923)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mochdre, Conwy) (416)
  
22.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mochdre, Conwy) (1202)
  
62.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Mochdre, Conwy) (337)
  
41.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 71. Mewn orgraff ddiweddar.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: